A mae’r pwll yn sicr yn diddori fy ŵyr bach sydd yn treulio amser wrth yr ochr yn chwilio am lyffantod.
Mae draenog wedi bod yn ymweld a ni am amser hir. Falle mwy nag un - anodd weithiau gwahaniaethu rhwng draenogod! Beth sy’n dda ydy bod draenogod yn ymweld a sawl gymydog. O'r diwedd dwi wedi llwyddo i gael llun ohono un ohonyn nhw, ty allan i'r ardd. Ond methais cael llun da. Roedd pennod 6 o Natur a Ni yn cynnwys dipyn am ddraenogod.
A dyma llun o un yn bwydo wrth y drws
Dan ni ddim yn siŵr faint o ddraenogod sydd yn dod i’r stryd, ond trwy roi camera allan trwy’r nos cafodd ein cymydog drws nesa cip o lwynog a draenog gyda’i gilydd. Does dim modd rhoi'r llun yn fama yn anffodus. Dwi heb gweld llwynog eto - maent yn dod gyda’r nos - ond bob tro dwi'n deffro yn y nos (rhy amal) dwi'n edrych allan o'r ffenestr, rhag ofn!.

Creadur arall sydd yn byw yn yr ardd ydy llygoden bach sydd yn dod allan weithiau min nos i fwyta hadau. Ond mae’n andros o anodd cael llun. Mae hi’n rhedeg o gwmpas fel y gwynt - dyma cip bach.
Ac wrth gwrs, mae ieir bach yr ha yn brysur rŵan, yn cynnwys rhai prydferth fel hon: comma yn Saesneg.
Rhaid darganfod yr enw Cymraeg. Ddoe, wrth eistedd yn yr ardd gyda’r teulu ar ôl cinio Sul, daeth barcud coch drosodd. ’Roedd y camera bach gen i, ond doedd dim modd cael llun da - ’roedd rhy gyflym.
Ond am ffodus bod yr aderyn yma yn eitha gyffredin y dyddiau yma.

No comments:
Post a Comment