Gyda llyfrau Saesneg, dwi’n trio eu benthyg os bosib (er bod pethau wedi mynd braidd ar chwâl ers Cofid a’r llyfrgell wedi cau er ei fod wedi ail-agor ran), neu yn eu brynu’n ail-law, a wedyn maent yn mynd yn ol i siop elysen. Ond dydy hynny ddim yn bosib gyda llyfrau Cymraeg, gan fy mod yn byw yn Lloegr. Felly, gan nad wyf yn mynd i Gymru llawer ar y funud, o bryd i’w gilydd dwi’n anfon becyn o lyfrau Cymraeg i ffrindiau yng Nghymru: i ddarllen neu rhoi i rywun arall neu i siop elysen. Ac i ddod yn ol at Barato; dwi wedi ailgydio ynddi hi a mae hi wedi cydio eto! Dwi’n tueddu i anghofio stori llyfrau a felly mae ailddarllen fel darllen o’r newydd. Dwi wedi cyrraedd tudalen 152 yn y llyfr, ac er bod pytiau yn gyfarwydd, dwi ddim yn cofio’r stori!
A dwi’n medru gwneud hyn hyd yn oed gyda llyfr detectif (rhywbeth arall dwi'n hoffi!).
No comments:
Post a Comment