Mae gymaint i’w wneud yn yr ardd. Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn garddio, yn garddio, ac yn garddio....Mae’r hydref yn amser gwych yn yr ardd: mae’r pridd yn gynnes ar ol yr haf - ac eleni, dan ni’n falch o gael dipyn o law ar ol yr holl sychder a’r tywydd poeth. Mis diwethaf roeddwn yn cymryd toriadau o blanhigion fel y salvia a’r osteospermum, a wedi gwirioni wrth weld bod gwreiddiau da wedi datblygu yn barod. Dyma un mewn potyn bach (roedd gorchudd plastic arnyn nhw, yn y tŷ gwydr).
Amser hefyd i drio gadw planhigion salad trwy’r gaeaf, os dach chi’n dechrau ym mis Awst (yr amser gorau) neu, falle, mis Medi (roedd Awst rhy boeth eleni). “Artic King” ydy’r letysen yma - gobeithio bydd rhai ohonyn nhw yn barod cyn y Gwanwyn, ond cawn gweld.
Mae’r rhain yn y tŷ gwydr hefyd, ond ddylse nhw fod yn iawn yn yr ardd. A dyma nhw eto dan “cloche” plastig.
Tu allan i’r tŷ gwydr mae ’na ddigonedd i’w wneud hefyd. Mae’r compost wedi datblygu’n dda
a mae hwn yn mynd dros y gwlau llysiau fel carped clyd dros y gaeaf. Un o’r tasgau bleseris i’w ddod ydy plannu’r bylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn.
No comments:
Post a Comment