O’r diwedd dw wedi postio i’r blog. Dan ni wedi cael tywydd rhewllyd iawn ac eira yn ddiweddar, ond erbyn ddoe roedd hi’n bwrw glaw a’r eira a’r rhew wedi diflannu. A ia, mi roedd y pafin yn llithrig, ond mae hi wedi bod mor brydferth. Anaml iawn dan ni’n cael eira sydd yn aros ar y tir am gyn hired. Ond gyda’r tymherau isel, isel, cawsom wythnos o eira, ac unwaith daeth yr haul allan, roedd pob man yn sgleinio.
A dyma lluniau o gae bach a’r coed a’r afon sydd ddim yn bell i ffwrdd – a’r haul yn disgleirio.
Prynhawn Gwener es am ddro ar hyd yr afon sydd yn rhedeg ar gwaelod y comin. Ac o, roedd yn hardd. Roedd par o farcutiaid yn hedfan o gwmpas yn cael eu herlid gan y brain. Maent yn paru am oes felly byddaf yn cadw llygad barcud (ww!) i weld os bydd par yn nythu yn yr un lle a llynedd. Efallai o’r diwedd byddaf yn cael llun da ohonyn nhw. (Dwi'n eitha hoff o'r llun yma a chymerais rwy flynyddoedd yn ol- ond dim barcutiad lleol ydy hon)
No comments:
Post a Comment