Dan ni wedi cael tywydd anhygoel yn ddiweddar. Oer iawn ond prydferth gyda’r barrug yn parhau trwy’r dydd a’r haul yn gwenu. Felly taith cerdded eitha hir bore ddoe, ar y comin.A dyma be oedd ar yr afon: hwyaid danheddog.
Braf, hefyd, oedd dydd Sadwrn; unwaith i’r niwl clirio. Es i lecyn bach lleol, eitha diwydiannol, lle roedd sgwarnogod i’w gweld. Dyma llun tynnais yn 2018 ....
Ond dim rŵan,ar ol gymaint o adeiladu. Ond mae’r ceirw dwr Tsineiaidd yna o hyd, ryw 11 ohonyn nhw.
Dim yn agos iawn, ond braf eu gweld nhw.
No comments:
Post a Comment