“Gŵyl Ddewi Arall. 15.25. Amser i gael hoe a phanad yn Llety Arall lle dwi’n aros am y benwythnos yn ystod yr ŵyl eleni. Wedi cyrraedd Caernarfon es i’r siop elysen a phrynais dau lyfr (ond yn hwyrach penderfynnais adael nhw yn Llety Arall). Wedyn cinio yng Nghaffi Maes - gyda salad ardderchog. Lle braf i wylio'r mynd a dod ar y maes. Ers i fy lefel gliwcos dangos ei fod yn medru mynd yn uchel ac yn speicio, dwi'n trio bod yn ofalus iawn gyda be dwi’n bwyta“ osgoi gormod o carbs (anodd) a bwyta digon o lysiau a ffrwythau a hadau (tipyn yn haws oherwydd dwi’n gwneud llawer o hwnna’n barod). A gwylio rhan o’r orymdaith Gŵyl Ddewi
a cael sgwrs glên â’r dyn a’i ŵyr sydd ar y bwrdd nesa ac yn dod o Beaumaris. Taith bach o gwmpas ”pethau bychain“: arddangosfa; a wedyn i’r Anglesey, a chyfarfod a Mosh, ci defaid Kelpey o Awstralia. Ci cyfeillgar iawn. I Balas Print wedyn lle brynais dau lyfr: Llygad Dieithryn (hen ei agor eto) ac Amser Drwg fel Heddiw (Iwan Meical Jones), Cael paned a gwylio’r gwylanod ac eirau ar y mynyddoedd. Wedi tynnu ambell lun. Dechrau da i’r penwythnos.”

Erbyn hwyrach yn y prynhawn roedd y glaw wedi cilio yn gwbl gyfan (am y tro) a cerddais wrth waliau’r dref yn edrych allan ar Ynys Môn. Golau gwych, Dyma lun o bysgotwyr.
No comments:
Post a Comment