O’r diwedd dan ni’n cael dipyn o law. Mae’r tywydd wedi bod yn braf ar y cyfan am ryw fis - ond yn bendant dan ni ddim wedi cael llawer o law, ac mae’r tir yn sych ofnadwy. Felly dwi wedi bod yn treulio amser yn dyfrio’r ffa yn yr ardd, a’r roced...a’r potiau, ac mae’r pwll bach yn sychu i fyny yn gyflym.
Ond heddiw, gyda’r glaw, mae hi’n bwysig defnyddio’r dŵr glaw yn ddoeth. Dwi’n casglu’r dŵr sydd yn dod i’r bwced ar waelod y tŷ gwydr ac yn rhoi’r dŵr yn y pwll, neu ei ddefnyddio i ddyfrio’r potiau.
Hefyd mae hi’n gyfle i fynd trwy beth mae fy mab yn galw “gwaith papur”: y pethau sydd yn dod yn y post, o’r swyddfa trethi, neu’r banc, new pytiau dwi isio cadw o’r papurau newydd. Fel arfer os ydy’r tywydd yn dda dwi wastad yn blaenoriaethu cael bod allan: cerdded ar y comin a gwylio’r bywyd gwyllt, neu weithio yn. yr ardd, neu dynnu lluniau.
Gawn i weld sut mae pethau’n mynd!
No comments:
Post a Comment