Y rhaglen dwi’n gwrando arno mwyaf ydy Dewi Llwyd ar fore Sul. Mae ei westeion o wedi bod yn ddiddorol tŷ hwnt. Dwi wedi sôn yn barod am wrando ar Bethan Gwanas - a mae hi yn pwysleisio’r pwysicrwydd o gael bobl i ddarllen yn y Gymraeg: mae hi’n dweud ei bod hi wedi dechrau sgwennu ar gyfer y fath o berson sydd ddim yn darllen yn y Gymraeg fel arfer. Ar ôl gwrando ar Gareth F Williams, gwestai penblwydd arall ar raglen Dewi, sylwais ei fod o hefyd yn frwdfrydig dros y iaith, a dros cael pobl infanc i ddarllen yn y Gymraeg. Yn ogystal a darllen bob llyfr Bethan Gwanas dwi’n meddwl fy mod wedi darllen bron bob lyfr gan Gareth Williams hefyd, a mae’n amlwg o’r gyfweliad gyda Dewi, bod llawer fwy o lyfrau ar y gweill! Ond cyn darllen mwy, bydd raid i fi ddarlle Awst yn Anogia, sydd yn eistedd ar y silff. Mae rhai yn honni mae hon ydy’r nofel gorau yn y Gymraeg!
Wythnos diwethaf roedd gwestai arall arbennig (rhaid bod pobl diddorol iawn yn cael eu eni ym mis Ionawr a Chwefror!) Tro Duncan Brown oedd o, naturiaethwr hynnod diddorol. Cefais y fraint o gyfarfod a fo pan roeddwn yn Nant Gwrtheyrn haf diwethaf, ac ers hynny, dwi’n cyfrannu lluniau bob hyn a hyn i’r wefan Llên Natur.
A tra mae awdurion a naturiaethwyr yn siarad ar Radio Cymru, mae rhagleni da wedi bod ymlae ar S4C hefyd. Dwi wedi mwynhau gwylio “Arctig Gwyllt Iolo Williams“. Ac yn nes at fy milltir sgwar, dwi’n lwcus cael digonedd o lefydd i wylio bywyd gwyllt yn lleol. Dwi ddim wedi cael llun da o’r cudyll coch eto - ond dyma’r llun diwethaf.
No comments:
Post a Comment