Dwi wedi llwyddo i feicio i'r gwaith bron bob dydd dwi'n mynd i fewn (ond gweithio 3 diwrnod yr wythnos rwan) trwy'r gaeaf hyd at hyn, ond bore ddoe, wnes cangymeriad wrth feddwl bod y llwybrau yn glir o farrug a rhew. Roedd y rhan fwya yn iawn, ond weithiau roedd rhaid cerdded - dyma rhan llithrig!
Dewisiais peidio a beicio'n ol ar y llwybr - gobeithio bydd digon da i dod a'r beic adre heddiw!
No comments:
Post a Comment