Ailddysgu

Sunday, 20 July 2025

Edrych yn ol

Post dipyn bach wahanol heddiw - yn edrych yn ôl ar y busnes blogio yma.  Dwi’n cofio pan glywais am flogiau am y tro cyntaf yr oedd yr erthygl yn dweud rhywbeth fel: “Would you write your diary for a thousand readers?” a’r awgrymiad oedd mai dyddiadur ydy blog yn y bôn, ac wrth gwrs mae dyddiadur yn medru bod yn bersonol iawn.  Ac yn wir, yn ôl wicipedia: “The modern blog evolved from the online diary” yng nghanol y nawdegau.

 

Yn fy ngwaith, yn y Brifysgol Agored, roedd un neu ddau wedi dechrau blogio, yn cynnwys un o fy nghyd-weithwyr Martin Weller  Ryw ddwy flynedd yn ôl gadawodd Martin y brifysgol hefyd.  Roedd y ddau ohonom wedi gweithio gyda’n gilydd yn golygu siwrnal, JIME. Pan o’n yn dechrau meddwl am sgwennu blog, roedd eraill yn y brifysgol yn ein hannog ni i sgwennu am ein gwaith, pethau academaidd.  Ond penderfynais doeddwn ddim eisiau gwneud hynny.  Roedd hynny’n teimlo’n rhy noeth, rywsut.

 

Un peth yr oedd Martin yn pwysleisio oedd pwysicrwydd darganfod dy lais wrth sgwennu blog, ac mae hynny’n wir.  Yn y diwedd penderfynais sgwennu blog am ail-ddysgu Cymraeg, yn Saesneg, yn 2007 ond erbyn 2009 roeddwn hefyd yn sgwennu blog Natur leol:

ac yn yr un flwyddyn dechreuais y blog yma.

Meddyliais ei fod yn amser i ymarfer fy Nghymraeg trwy sgwennu yn y Gymraeg.  Penderfynais beidio â phoeni ormod am wallau gramadegol.

 

Wrth edrych yn ôl ar y blogiau cynnar, gwelaf fy mod yn sgwennu am ddysgu Cymraeg fel arfer; felly cyrsiau; ysgolion undydd; ymweliadau â Chaernarfon; llyfrau a.y.b. a hefyd sgwennu am yr heriau fel gramadeg

ac am fy eisteddfod gyntaf hefyd. 

 

Ac ar ddiwedd y flwyddyn (falle dechrau’r flwyddyn ganlynnol) sgwennais am yr ysgol Galan ym Mangor

Yn eithaf buan wnes i roi gorau i roi “tagiau” yn y blog, ond parhau gyda phethau Cymraeg a Chymreig a oedd yn bwysig i fi, fel mynd i Ŵyl Arall yng Nghaernarfon am y tro cyntaf yn 2011.

Roedd y digwyddiadau yma yn bwysig i fi ac i fy siwrne ail-ddysgu.  Es i’r Ysgol Galan dwy neu tair gwaith: ffordd ardderchog o roi sbardun i’r Gymraeg ar ddechrau blwyddyn newydd, a daeth Gŵyl Arall yn rhan bwysig o fy myd Cymraeg.

 

Yn 2012, am y tro cyntaf ers bod yn yr ysgol penderfynais wneud cwrs a oedd yn fwy na phenwythnos.  Darganfyddais cwrs i oedolion trwy’r post.  Prifysgol Bangor a gynigiodd y cwrs hwn: cwrs Maestroli ac am y tro gyntaf, roeddwn yn cael adborth ar fy ngwaith ac yn trio o ddifrif i ddysgu rheolau gramadeg.

 

Fel edrych ar hen luniau, mae cadw blog yn rhoi gwybodaeth i chi hefyd – fel, pryd ddechreuodd y clwb darllen Llundain?  2012! 

Yn amlwg yr oedd 2012 yn flwyddyn bwysig.  Mi wnes gyflwyniad yn y Gymraeg yn yr eisteddfod a hefyd dechrau grŵp siarad Milton KeynesA dwi wedi cael hwyl yn mynd trwy’r blog a gweld be oeddwn yn gwneud ynglŷn â’r Gymraeg.  Byddaf yn dod yn ôl i’r pwnc yma eto. 

Sunday, 13 July 2025

Yn ol yn yr ardd. Gorffenaf 14

Wel, daethon ni yn ôl nos Wener o’n gwyliau yn Northumberland.  Ffarwél i Alnmouth a’r môr ac yn ôl i’r poethder yn famau yng nghanol y wlad.  Er ei bod yn dda cael gwyliau, ac yn enwedig o dda bod ar yr arfordir gyda;r tymherau mor uchel, mae dod adref yn dda hefyd.  Ro’n wedi trefnu i’r ardd a’r tŷ gwydr cael eu dyfrio tra roedden i ffwrdd ac yn y bôn roedd y cynllun wedi gweithio, er, gyda’r tywydd poeth dan ni’n cael y dyddiau yma, dwi’n meddwl byddaf yn tyfu llai o lysiau i wneud pethau’n haws yn y dyfodol.  A hefyd, gyda’r blodau,  ond yn tyfu planhigion sydd yn medru ymdopi gyda’r sychder.

 


Yn y tŷ gwydr mae’r tomatos yn dod ymlaen yn dda - dim angen prynu tomatos rŵan, na ciwcymber chwaith - digon ohonyn nhw!  Eleni mae’r. mafon wedi gorffen dipyn yn fuan (oherwydd y poethder) ond mae’r mwyar duon ar gael.  Ond y rhai yn yr ardd dwi wedi casglu, ond dwi’n gweld eu bod yn aeddfed ar y comin hefyd.  Ac un o’r aeron mwyaf tlws ydy’r cyrens coch.  Dim mor melus a mafon neu mwyar duon, ond gwych mewn cymysgedd o aeron.  A mae’r eirin yn barod hefyd!  Rhaid bod yn ofalus gan bod y cacwn wedi dechrau heidio atyn nhw hefyd, ond mae digon ar gael i fwyta rŵan a rhoi yn y rhewgell.





Sunday, 6 July 2025

Ar ein gwyliau

Dan ni wedi llwyddo rŵan i ddod i ffwrdd ar ein gwyliau.  Ond wythnos dan ni yn ei chymryd, ac eleni dwi’n poeni bod wythnos yn ormod gyda’r ardd mor sych, a hithau wedi bod mor boeth.  Dwi wedi talu merch fy ffrind i ddod i mewn a dyfrio’r ardd a’r tŷ gwydr a’r potiau yn y cefn.  Gobeithio bydd hi’n ymdopi ond bydd rhaid peidio â phoeni gormod neu fydd mynd i ffwrdd ddim yn bosib!

Beth bynnag, aethon ni ar y trên i Morpeth yn yr Hen Ogledd: Northumbria.  Roedd yr orsaf yn MK dan ei sang, ac yr un peth yn Llundain; ac y trên yn orlawn hefyd ond o leiaf doedd dim rhaid gyrru am oriau.  Y cynllun oedd llogi car o Morpeth - doedd hynny ddim yn broses esmwyth ond llwyddon ni i gael y car erbyn cyrraedd y nos.  Dwi erioed wedi bod yn Morpeth o’r blaen - hen dref y sir, a gafodd ei sefydlu rywbryd yn y ddeuddegfed ganrif.  Mae llawer o’r hen dref wedi goroesi ac mae ’na barc gwych gyda gweddillion hen gastell tomen a beili, coedwigoedd eang a llwybr ar hyd yr afon.  Roedd Emily Davison y syffrajet, yn dod o Morpeth ac mae ’na gerflun ohoni hi yn y parc.

 


Erbyn rŵan dan ni wedi symud i Alnwick. Ddoe aethon ni i weld y gerddi yn Wallington.

https://www.nationaltrust.org.uk/visit/north-east/wallington






Maen nhw yn wir yn hyfryd - ond mor bell i ffwrdd o ble dan ni’n byw felly da cymryd y cyfle i fynd tra ydyn ni yn yr ardal.  Dyma rai lluniau o’r gerddi - diwrnod braf o ran y tywydd cyn i’r haul gilio a thipyn o law dod...