Ailddysgu

Tuesday 23 February 2010

Gramadeg a phethau arall

Fel dwi wedi sylwi o blaen, dwi erioed wedi dysgu Gramadeg Cymraeg (ar wahan i'r ysgolion dydd a dros benwythnos). Felly dwi'n gwneud llawer (ie llawer iawn) o cangymeriadau - dim yn defnyddio treigliadau pan sy angen nhw - ac yn ei ddefnyddio pan sy ddim angen nhw - a mae rhaid i fi feddwl yn galed am derfyniadau berfau. A be ydi'r pwynt? Be dwi eisio ydy medru siarad mewn ffordd digon rugl, heb gwneud cangymeiriadau mawr - dwi ddim eiso trio bod yn berffaith. Ond mae o'n anodd gwybod y ffordd gorau i wella fy ngramadeg. Wel, dwi'n gwybod bod rhaid cael ymarfer mewn siarad a sgwennu - ond siwr o fod, fy mod i'n gwneud cangymeriadau sydd ddim yn cael ei gywiro. Dwi yn defnyddio dau lyfr - dwi ddim yn cofio enw'r un oren, sy'n llawn o bethau ramadegol; a llyfr yn llawn o ymarferion ydi'r llall. Dwi'n gwneud dipyn o'r ymarferion ar y bws ac ar y tren a y.y.blaen - ond gwaith reit ddiflas ydi'r rhan mwyaf. Mae rhaid bod ffordd gwell! Os gan rywun syniadau da? Dwi hefyd yn gwrando i Cam Ymlaen a.y.y.b pan dwi'n beicio ond dwi ddim yn meddwl bod gwrando mor dda a siarad neu sgwennu. Beth bynnag, mi fydda i'n mynd i'r ysgol penwythnos ym Mhontypwl dydd Gwener. Ysgol Galan sydd wedi cael ei ailsefydlu. Dwi'n siwr y bydd rywfaint o waith ramadeg - ond gobeithio na fydd gormod. Ond beth bynnag, fel arfer, dwi'n edrych ymlaen at y penwythnos.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home