Ailddysgu

Monday 4 October 2010

Bwyd yn rhad ac am ddim



Dw i ddim wedi cyfrannu i’r blog yma ers dipyn – efalla oherwydd dwi wedi bod yn brysur yn tynnu’r chwyn o’r ardd, trefnu dipyn arna hi cyn y gaeaf a hefyd yn casglu’r cynhaeaf . Dw i wedi son o’r blaen bod y planhigion mafon ddim gystal a ddylen nhw fod – ond serch hyn, dyn ni wedi cael digonnedd o aeron. Mae’n digalonnog gweld yr haf yn dod I ben, ond un cysur ydi’r cynhaeaf. Amser yma o’r blwyddyn ydyn ni’n cael y pwmpeni, yr aeron, yr afalau ac y gellyg. Ond dydi’r ffrwythau ddim wedi dod ymlaen mor dda eleni. Mae’r afalau cyntau yn dod o’r coeden “Discovery” sydd ger y wal. Mae rhain yn aeddfedu yn gynnar - mis Gorffenaf neu Awst ond dydy nhw ddim yn cadw’n dda. Wedyn mae’r “Laxton” yn dod – ond eleni – ond un afal! Mae’r coed hyn yn medru tueddi frwythi bod dwy flynedd ac unwaith mae’r patrwm wedi dechrau, mae’n annodd torri fo .

Mae gennyn ni goed afal eraill, ar wahan i’r ddwy goeden yn yr ardd – yn y perllan anghyfreithlon – lle dwi’n gwneud fy ngarddio gerila. Ond mae rhain yn ifanc a dim wedi ffrwytho llawer eto. Wedi deud hyn, roedd sawl gellygen ar y pren gellyg. Ond ychydig iawn o afalau ar y dwy goeden afal bwyta – a hefyd dim llawer o gnau ar y coeden cnau.

Ond mae llefydd eraill i gael ffrwyth. Cyn I’r tywydd waethygu (mae hi wedi bod yn wlyb iawn yn ddiweddar…) es I hel mwyar duon. Mae na lawer o lefydd i gasglu mwyar duon o gwmpas – a hefyd perllen gymdeithasol dim yn bell o lle dwi’n gweithio. Hefyd mae coeden afal dim yn bell o’r ty, sydd ddim ar tir preifat – a mae digon o afalau sydd wedi disgyn yn y gwynt ar gael.

1 Comments:

At 4 October 2010 at 14:06 , Blogger Nic said...

Mae rhaid i fi gofio mynd â bagiau pan cerdda i i'r dafarn nos Fercher - mae 'na lwyth o damsons i gael ar y ffordd. Dw i'n meddwl hefyd am wneud jin eirin bach surion eleni, am y tro cyntaf ers blynydde. Oes drain duon yn dy ardal di?

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home