Ailddysgu

Wednesday 23 June 2010

Beicio i'r gwaith


Nes I feicio i’r gwaith heddiw – nid ydi hyn yn beth anghyffredin, ond roedd yn her, achos dwi’n mynd i fynny i Nottingham bellach ymlaen heddiw a mae gennyn ni gyfarfod gwaith fory – wel, Dydd Agored i ddweud y gwir, ynglyn a prosiect gwaith – “Personal Inquiry”. Y her oedd dod a’r dillad angenrheidiol am fory ar y beic. Oherwydd dwi’n mynd i’r cyfarfod yfory (yn teithio yn hwyrach heddiw ac yn gorfod gadael y beic yma dros nos), 'swn i ddim wedi traferthu hefo’r beic heddiw, ond heddiw yw “Bike to Work” day. Dwi ddim yn siwr os ydi hwn yn digwydd yng Nghymru hefyd? Beth bynnag, gwnaeth lawer o bobl feicio a dyma lun o rai ohonnyn nhw yn "clocio i mewn" fel petai.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home