Ailddysgu

Monday 12 January 2009

Cwrs Ysgol Galann - New Year's course

Dw i wedi bod yn Y Fenni am y benwythnos ar cwrs Cymraeg. Fel arfer, dw i wedi mwynhau fy hyn – ond fel arfer hefyd – cyn gystal a dysgu rwyfaint o eirfa newydd a rwyfaint (efallai) o ramadeg, dw I wedi dysgu (neu cael fy nghatgofio) o gymaint dw i ddim yn gwybod. Dim ots – yr unig peth i wneud (‘dw I’n meddwl) ydy darllen, sgrifennu, gwylio rhaglenni ar S4C a gwrando i'r radio, a bwcio cwrs arall, neu cael cyfle rhywffordd arall, i ymarfer, – a, pwysig iawn, i siarad Gymraeg. Hynny ydy'r problem gyda byw yn MK.

Cwrddais a Gareth – sy'n byw yn Basingstoke (wnai ddim trio roi y treigliad Cymraeg!) a cawsom sgwrs neu ddau reit diddorol am dysgu Cymraeg. Mae Gareth yn dysgu cwrs mynediad yn Basingstoke ac yn trefnu dydd ym Mawrth. Ella a i yno – dibynnu ar be fydd yn cael ei drefnu; os fydd yn hawdd i fynd ar y tre;n a be arall sy'n digwydd. Baswn i'n hoffi mynd i'r cwrs Pasg yn y Fenni os ydi o'n gweithio allan. A 'd wi'n meddwl am fynd am wythnos yn yr haf i'r gogledd os bosib, i Nant Gwytheurn efallai – neu i'r eisteddfod.

Dw i wedi prynu rhagor o lyfrau i ddarllen ( wastad yn rhedeg allan o lyfrau – fedrwch i ddweud rhedeg allan, fel yn Saesneg, tybed?) A wedi darllen rhan o Cysgod Y Cryman ar y siwrna. Ydw i ddim wedi darllen dim byd gan Ffowc Elis o'r blaen, a mae hi'd ddigon diddorol, ond fel fysach chi'n disgwyl (gaith ei sgrifennu yn 1953 – cyn fy ngeni) mae o yn stori am amser sydd wedi gorffen.

English summary to follow...........
Another good weekend Welsh course in Abergavenny. But as usual - as well as learning some new vocabulary - and grammar - it also serves to remind me of how much I don't know. Only thing to do is keep practising by reading, listening and speaking Welsh (the latter a bit hard in MK). Met Gareth who is teaching a foundation Welsh course and organising a day school in March which I may try to get to - though suspect travelling to Basingstoke for a day won't be straightforward. I would also like to get back to Abergavenny for the Easter course - and perhaps do a week in the summer (maybe in the North Wales centre in Nant Gwytheurn ).

Bought some more Welsh books - always running out. I've read part of "Shadow of the sickle" - a classic by Ffowc Elis, on the journey home. Am really enjoying it - but as one might imagine - it does chronicle a time that is past (it was published in 1953).

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home