Ailddysgu

Friday 22 October 2010

Y pannas cyntaf a'r aubergine olaf



Dyma'r pannas cyntaf dwi erioed wedi tyfu (cyn belled a dwi'n cofio). Mae nhw'n iawn, yndyn? R'on i'n meddwl efallai fy mod i ddim wedi gadael digon o le rhyngddyn nhw, felly roedd rhaid i mi godi rhai ohonnyn nhw i weld. A dyma be ges i. R'on i reit hapus a wnai adael y lleill am dipyn. Stori wahanol hefo'r aubergines. (Oes gair Cymraeg, tybed?) Roedd ryw ddeuddeg o flanhigion yn y ty gwydr eleni. Fel arfer, mae nhw'n gneud yn dda iawn - ac yn ddefnyddiol iawn hefyd. Ond eleni, fel llynedd, ches i ddim llawer o ffrwythau. Efallai ei bod ni yn teimlo'r effaith o ddiffyg gwennyn, yn barod. Pwy a wyr. Ond dwi ddim yn siwr os dyfai rhein blwyddyn nesaf - ac os gwnaf, byddaf yn gwrteithio nhw fy hun hefo brwsh bach (neu fy mysau!) A'r un olaf sydd yn y llun - coginiais o wythnos diwethaf - ac oedd o'n flasu'n hyfryd.

Son am flasu, gwyliais y rhaglen cynta o'r gyfres newydd o Dudley, neithiwr. Ac oedd o yng Nghaernarfon - fy hen dref i! - yn gwneud lobscows - yn cystadlu hefo rhywun o'r dre i weld ba ryceit fydd yn ennill.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home