Yr ardd: paratoi am yr Hydref a'r Gaeaf
Wel, o’r diwedd dwi wedi darganfod - neu gwneud, yr amser i bostio blog newydd - er fy mod i wedi bod yn meddwl am wneud am dipyn. Blog am ddarllen? cerdded? yr amgueddfeydd lleol? neu yr ardd? Yr ardd a ennillodd.
Mae hi wedi bod yn amser eitha brysur yma, ond pleserus. Yn y bôn mae hi wedi parhau yn boeth (iawn) ac heulog, ond gyda rhai dyddiau, fel heddiw, lle mae hi’n gymylog. A mae hynny’n beth da, oherwydd mae’r ardd wedi bod dan bwysau gyda’r sychder a’r gwres. Felly mae dydd lle dydy’r haul ddim yn tywynnu’n gryf yn rhoi hoe bach i’r ardd, a chyfle i ddyfrio, chwynu a hau, i fi.
Dydd Gwener oedd diwrnod marchnad y ffermwyr yn y dref. A’r peth am hynny ydy bod fan “The Green Machine” yn dod yna. Ar ôl i’r siop “refill” cau, roeddwn yn ofni baswn yn gorfod mynd yn ôl i brynu nwyddau mewn bagiau plastig, ond, unwaith y mis, mae’r cyfle i brynu bwyd sych a hefyd pethau fel siampŵ, a hylif golchi llestri mewn cynwysyddion dach chi’n defnyddio - ac ailddefnyddio a.y.b.. o’r fan. Felly dim plastig newydd. Ac mae hynny’n teimlo’n dda: cael gwneud rhywbeth bach. Ond does dim cysylltiad â’r ardd HEBLAW ar y ffordd roedd pentwr o dail geffyl enfawr. Ac wedyn un arall! (Ceffylau mawr yn yr ardal yma!) A hefyd ’roedd y pentwr yn eithaf agos i fy nhŷ i. Felly es ati (fel rhywun yn ôl yn y 50 au) i fynd allan gyda bwced a dyma’r tail ceffyl yn dod yn ôl ac yn cael ei roi yn y bin compost. Ac mae tail ceffyl yn gwneud gwyrthiau i’r compost.
Mi es i weld ffrind dros ginio dydd Sadwrn a dod yn ôl heibio’r ganolfan arddio - felly es i weld os oedd blanhigion letys ganddyn nhw. Y peth ydy, dydy o ddim yn bosib hau letys mewn tymherau uchel. Ac mi oedd blanhigion, sydd rŵan mewn potiau yn y tŷ gwydr, allan o’r ffordd, dwi’n gobeithio, o falwod, gwlithod ac adar sydd isio eu bwyta nhw.
A choeliwch neu beidio, mae hi’n amser paratoi am yr Hydref, y Gaeaf a’r Gwanwyn! Dwi wedi bod yn edrych ar ba fylbiau i brynu ar gyfer y Gwanwyn ond dim wedi gwneud archeb eto. Ond cyn hynny, mae rhaid meddwl am blanhigion ar gyfer yr Hydref a’r Gaeaf os dan ni isio dal i fwyta dail a llysiau o’r ardd a’r tŷ gwydr. Mae’r cynhaeaf wedi bod yn ardderchog, ac yn parhau. Tomatos. ciwcymbr, ac aubergines yn gwneud yn wych - a hefyd mafon, llwyth o afalau, ac yr eirin Fictoria jyst yn dechrau dod.
Roeddwn wedi gadael un planhigyn addurnol yn y tŷ gwydr i ddenu pryfetach i mewn ac i edrych yn dda. Verbena Borariensis.
Ond yr oedd hi wedi tyfu mor fawr; rhy fawr. Felly allan gyda hi, i lecyn newydd yn yr ardd, yn gadael lle i blannu dail salad a choriander. Y peth nesaf ydy cael llecyn yn yr ardd ar gyfer sbigoglys.
A dyma ddigon am rŵan. Byddaf yn diweddaru beth sydd yn ac wedi digwydd bellach ymlaen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home