Cynhaeafu
Mae’r tŷ gwydr, yn enwedig, wedi bod yn gynhyrchiol iawn eleni - ac mae’r cynnyrch yn dal i ddod: llwyth o domatos, ciwcymbr, pupurau mawr sydd yn cochi rŵan, ac aubergines enfawr: digon mawr bod un yn gwneud cinio sydd weithiau yn ddigon am fwy nac un bryd o fwyd. Ar ôl y gwaith caled mae hi’n hyfryd cael y ffrwythau yma. Mae’r tomatos wedi mynd i mewn i gawl ac yn cael eu defnyddio yn ddyddiol - a rhai yn mynd i ffrindiau hefyd.
Dyma be wnes I gasglu o’r tŷ gwydr bore Mercher:
Tu allan mae’r goeden afalau Discovery wedi gwneud yn dda eleni hefyd. Dydyn nhw ddim yr afalau gorau, ‘swn i’n dweud; felly dyma gyngor os ydych am blannu coeden am y tro cyntaf – gwnewch yn siŵr eich bod yn blasu’r ffrwythau! Ta waeth. Mae’r rhain yn aeddfedu yn gynnar ond dydyn nhw ddim yn cadw – felly rhaid eu bwyta neu wneud rhywbeth gyda nhw. Ar ôl eu bwyta nhw a rhoi rywfaint i gymdogion a ffrindiau roedd llwyth ar ôl felly dyma wneud siytni. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gyda chyri.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home