Ailddysgu

Sunday, 29 June 2025

Gwair a thrychfilod

Mae hi’n dipyn o amser ers Mai di-dor, ond serch hynny, dwi heb dorri’r gwair; yn rhannol oherwydd y tywydd sych sydd hefyd wedi bod yn boeth iawn weithiau.  Felly yn yr ardd o flaen y tŷ, lle mae gynnon ni ddwy lawnt fach, mae un wedi cael ei thorri, ac un heb.  Mae un rhan o’r ardd yn eithaf gwyllt.  Yn y cefn, ar ddechrau mis Mai, gadewais ran o’r lawnt heb ei dorri.  




Ond pan ddaeth diwedd y Mis, penderfynais adael y gwair fel yr oedd o, yn rhannol oherwydd y sychder, ac yn rhannol i gadw blodau ar gyfer trychfilod.


Yn ôl y sefydliad sydd yn gwarchod ieir bach yr haf, mae gwair hir yn bwysig iddyn nhw, neu loÿnnod byw (dwi ddim am ddefnyddio’r gair pili-pala), ac yn dweud bod ei ymchwil yn dangos mor bwysig ydy cael gwair hir i’r gloÿnnod byw.  

Maen nhw eisiau i ni addo peidio torri’r gwair rhwng mis Ebrill a mis Medi os bosib! Erbyn rŵan mae’r ardd gefn wedi troi o fod yn rhywbeth anffurfiol, naturiol a hardd, i fod yn eithaf blêr, ond mae digonedd o flodau yna, a does dim llawer o bwynt torri’r gwair a hithau mor sych a phoeth. 



Yn bendant dwi’n gweld llawer o drychfilod yn yr ardd gefn a’r ffrynt - ond dim cymaint o loÿnnod byw ac y baswn yn hoffi eu gweld.


Ac ar y comin mae’r gwair wedi cael ei dorri hefyd.  Fel arfer dydy hyn ddim yn digwydd tan fis Gorffennaf.  Felly dwi’n gobeithio bod yr ehedyddion wedi gorffen nythu!  Yn bendant yr oedd yn eithaf tawel ar y comin y bore ‘ma ond dyma un o’r ehedyddion.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home