Ar ein gwyliau
Dan ni wedi llwyddo rŵan i ddod i ffwrdd ar ein gwyliau. Ond wythnos dan ni yn cymryd, ac eleni dwi’n poeni bod wythnos yn ormod gyda’r ardd mor sych, a hithau wedi bod mor boeth. Dwi wedi talu merch fy ffrind i ddod i mewn a dyfrio’r ardd a’r tŷ gwydr a’r potiau yn y cefn. Gobeithio bydd hi’n ymdopi ond bydd rhaid peidio â phoeni ormod neu bydd mynd i ffwrdd ddim yn bosib!
Beth bynnag, aethon ni ar y trên i Morpeth yn yr hen Ogledd (?) Northumbria. Roedd yr orsedd yn orlawn yn MK; yn orlawn yn Llundain, y trên yn orlawn hefyd ond o leiaf doedd dim rhaid gyrru am oriau. Y cynllun oedd llogi car o Morpeth - doedd hynny ddim yn broses esmwyth ond llwyddon ni i gael y car erbyn gyda’r nos. Dwi erioed wedi bod yn Morpeth o’r blaen - hen dref y sir, a chafwyd ei sefydlu rywbryd yn y deuddegfed ganrif. Mae llawer o’r hen dref wedi goroesi ac mae ’na barc gwych gyda gweddillion hen gastell tomen a beili, coedwigoedd eang a llwybr ar hyd yr afon. Daeth Emily Davison y syffrajet, o Morpeth ac mae ’na gerflun ohoni hi yn y parc.
Erbyn rŵan dan ni wedi symud i Alnwick. Ddoe aethon ni i weld y gerddi yn Wallington.
https://www.nationaltrust.org.uk/visit/north-east/wallington
Maen nhw yn wir yn hyfryd - ond mor bell i ffwrdd o le dan ni’n byw felly da i gymryd y cyfle i fynd tra rydyn yn yr ardal. Dyma rhai lluniau o’r gerddi - diwrnod braf o ran y tywydd cyn i’r haul cilio a dipyn o law dod...
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home