Yr Hydref, heriau Cymraeg a garddio...
Wel, mae’r Hydref ar ei hanterth rŵan, a dwi’n hoff iawn o’r tymor yma, ond eleni, ar y funud, tywydd llwyd, digalon dan ni’n cael; dim y dyddiau heulog, lliwgar fasen ni’n licio!
Dechreuais gwrs newydd ar ddiwedd mis Medi, cwrs cynganeddu. Ia, mi ŵn. A dwi’n gofyn yr un cwestiwn. Pam ar y ddaear? Ac yn ail, fyddaf yn medru ymdopi? Un ateb i’r cwestiwn gyntaf ydy fy mod yn hoff o chwarae gyda geiriau, arbrofi gyda synau, a falle mai hyn yn un ffordd o wneud hynny, ond fel roeddwn yn ofni, mae ’na gymaint o reolau. Dan ni ond wedi cyrraedd diwedd gwers 3 a chael gwaith cartref am y tro gyntaf, ac mae’r gwaith cartref yn anodd, wir yr. Ond collais yr ail ddosbarth oherwydd yr oedden ni ar drip bach i ffwrdd am ychydig o ddyddiau - a doedd hynny ddim yn helpu o gwbl. Mi lwyddais i ddilyn y wers, ond wrth drio dechrau ar y gwaith cartref (ryw fath o lenwi’r bylchau - ond eich bod yn gorfod creu llinell gyda chynganeddion) dwi'n ei chael hi yn eithaf anodd. Mae rhaid cael geirfa digon eang am un beth. Ond cawn i weld. Gwnaf tipyn bach ar y tro.
Dan ni’n cael help gan arddwr o bryd i’w gilydd oherwydd mae’r ardd yn fawr. Mi ddaeth o heddiw a chreu llecyn yn y bordor lle mae rhosyn am fynd. Dwi ddim cweit yn siŵr pa rosyn, ar y funud. Dwi wedi bod yn gwneud ymchwil ac yn ystyried rhai gydag enwau deniadol (ond Saesneg wrth gwrs) fel “Dainty Bess” (pinc) a “kew Gardens”. Does 'na ddim digon o rosod yn yr ardd, felly dwi’n edrych ymlaen.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home