Abaty Delapre a themtasiwn
Temtasiwn ac abaty Delapre
Temtasiwn ac abaty Delapre.
Mae’r ŵyrion gyda ni am ddiwrnod bob wythnos ynystod y gwyliau haf. Ac yn aml dan ni’n mynd allan i amgueddfa neu rywbeth debyg. Ar gyrion Northampton, mae Abaty “Delapre”. Dydy o ddim yn abaty bellach, wrth gwrs, ond yn ôl yr hanes, llwyddodd yr abades a oedd yn rhedeg y lle i gadw’r abaty heb gael ei ddymchwil am ddipyn mwy o amser na llefydd arall. Mae dipyn o’r hanes i gael yn fama:
Wedi'i sefydlu ym 1145, Abaty St Mary De la Pre oedd canolbwynt y gymuned
ganoloesol. Er nad oeddent yn gyfoethog nac yn niferus, roedd gan y lleiandy ran
i'w chwarae yn Lloegr ganoloesol o hyd. Ym 1291, bu farw Eleanor o Castile,
gwraig y Brenin Edward I, ac wrth teithio gyda ei chorff, arhoson yn eglwys yr Abaty
dros nos. (Dyma’r un brenin a oedd yn gyfrifol am adeiladu castell Caernarfon yn
1283). Ar ol ei marwolaeth, cododd Edward 1, groes garreg ym mhob lle ar
oedd y taith wedi oedi, ac mae’r croes tu allan i’r abaty yna o hyd.
Ym 2018, ar ôl gwaith adfer helaeth, agorwyd yr adeilad hwn o'r diwedd, i bawb ei fwynhau. Dan ni a’r ŵyrion yn mynd yna o bryd i’w gilydd. Fel arfer dan ni ddim yn mynd i mewn i’r hen abaty (er bod hynny’n bosib os dach chi’n talu) ond yn crwydro yn y goedwig sydd o gwmpas yr abaty, yn cael cinio, ac yn ymweld a’r ardd gaerog sydd yna. Yn fama mae tai gwydr swmpus a diddorol a hefyd siop lyfrau ail-law, a dyma lle dwi’n dioddef o demtasiwn. Mae’r un peth yn digwydd yn Oxfam ar y stryd fawr yn ein dref ni, ac yn Olney lle mae siop lyfrau Oxfam. Y tro yma, prynais llyfr RSPB “Garden Wildlife” ac o Oxfam, hen lyfr gan Sarah Raven, “The Great Vegetable Plot” (dwi’n dwli ar ardd Sarah Raven – stori arall ydy hynny) a hefyd, o Oxfam, llyfr am ynysoedd Shetland: lle dwi wastad wedi bod eisiau ymweld a – ond mae hi’n bell iawn....
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home