Ailddysgu

Wednesday, 27 August 2025

Nyth cacwn Awst 27

Dyma’r amser o’r flwyddyn pan dan ni’n torri’r coed yw.  Pan ddaethon ni i’r tŷ yma ar ddechrau’r 90au roeddent dipyn yn llai a wedi cael eu tocio i’r siâp yma.  


Erbyn rŵwan maen nhw wedi tyfu dipyn a does na ddim lle i gerdded rhyngddynt. Bob blwyddyn, bron, mae adar yn nythu ynddyn nhw, ond erbyn yr amser yma o’r flwyddyn mae’r tymor nythu ar ben.  Eleni daeth fy mab draw ar fore Llun i docio’r coed, ond yn anffodus, ar ol dipyn, cafodd ei bigo gan gacynnen a wedyn wnaeth o ddarganfod nyth cacwn.  Yn ffodus mae ganddo ffrind sydd yn delio gyda’r pethau yma yn ei gwaith a felly daeth o drosodd a cael gwared o’r nyth.  Ffodus iawn a hithau’n ŵyl banc.  Ond mae'r orchwel ar ei hanner a bydd rhaid gorffen y tocio: fory os ydy'r glaw yn cadw draw.


Mewn un ffordd roeddwn yn drist bod y cacwn yn cael eu ddinistrio, ond doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn syniad da iddynt aros yna efallai tan mis Tachwedd - a ninnau’n methu mynd rhy agos.


 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home