Ailddysgu

Tuesday, 14 July 2026

Llyfrau Newydd Cymraeg

Wth beidio fynd i Gaernarfon am yr ŵyl, collais y cyfle i brynu llyfrau Cymraeg newydd o “Palas Print” – ac i fynd â’r rhai doeddwn i ddim isio bellach i siop elusen – a falle prynu llyfrau o’r siop hefyd….Wel y llyfr ar ben fy rhestr ydy “Hei Fidel” gan Pryderi Gwyn Jones; (ar gyfer ein cyfarfod darllen nesaf).  Erbyn hyn, mae’r llyfr wedi cael ei harcheb o’r siop, ond fel dywedais yn y blog cynt, hefyd, darganfyddais copi o “Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn” ar Kindle, felly dwi hanner ffordd trwyddo fo erbyn rŵan ac ia mae o’n plesio o hyd. 

 

Dwi wedi darllen y ddau lyfr cyntaf yn y gyfres ac felly dwi’n awyddus i ddarllen “Tri” gan Sonia Edwards.  Ar ddechrau’r penwythnos treuliais dipyn o amser yn dal i fyny gyda’r podeldiad Colli’r plot.  Mae’r podlediad yn lle da i gael syniadau am be i ddarllen ond weithio mae malu awyr yn mynd yn ormod a dwi isio jyst cyrraedd y pwynt lle maen nhw’n trafod y llyfrau.  Ond wedi colli sioe Tudur Owen, Huw Dduw, deallais fod sgript ar gael, felly mae hwnna wedi ei harcheb hefyd.  Tybed bydd o yn gweithio fel sgript?  Cawn weld.

 

Awdur dwi’n hoffi yn ofnadwy ydy Rhian Cadwaladr; dwi wedi mwynhau  Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu! a Gwaddol, felly wrth glywed bod ‘na lyfr newydd allan:  “Tan ar hen aelwyd”, mi es ati i brynu hwnna hefyd.  Ac felly bydd pedwar llyfr yn cyrraedd yn y post cyn bo bir.  Cyffrous!  Yn y cyfamser – ers i fi sgwennu’r rhan gyntaf o’r blog, dwi wedi gorffen Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn ac wedi prynu Mor Hapus (Gwenllian Ellis) ar kindle hefyd: llyfr gwahanol iawn ond un dwi hefyd yn mwynhau. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home