yr ail ddiwrnod o'r Ŵyl
Mae hi’n ddydd Sadwrn erbyn hyn ac....
Mae hi’n parhau i fod yn boeth yma ond efallai dipyn bach yn oerach na ddoe. Am fy mod i ddim yn medru mynd i siop lyfrau i brynu llyfrau Cymraeg dwi wedi tsecio beth sydd ar gael ar Kindle – ac mae Croesi Cyfandir Ar Ddwy Olwyn ar gael a dwi wedi dechrau ei darllen. Diddorol ond dim llawer o esboniad pam oedd Grug Muse yn gwneud y daith yma. Ond ym mhellach ymlaen mae hi’n dweud bod cymaint o bobl mae hi’n cyfarfod gyda nhw yn gofyn yr un cwestiwn ac “antur” dwi’n meddwl ydy’r ateb. Fel mae hi’n digwydd roedd fy ng ŵr a fi yn sôn am wyliau beicio a wnaethon ni yng Ngogledd Sbaen yn ôl yn 1983 – yn fy ugeiniau hwyr. Am fis aethon ni; cael trên i lawr i Plymouth ac wedyn llong i Santander a beicio trwy’r Picos D-Ewropa, mynyddoedd trawiadol a hardd – ond yn achosi digon o law, a stormydd o bryd i’w gilydd. Felly dim byd fel yr 80 diwrnod a gymerodd Grug Muse I groesi America, ond taith ryw 30 diwrnod. Ond wedi dweud hynny, roedd yn rhoi’r profiad o feicio dydd ar ôl dydd: ond gyda chwmni.
Mae Grug Muse yn sgwennu’n dda, a mae’r llyfr yn hawdd ei ddarllen. Ar y rhan fwyaf, mae hi’n gwersylla: weithiau mewn parciau swyddogol ac weithiau mae hi’n trio ffeindio rhywle addas answyddogol. Dan ni’n cael llun da o America deng mlynedd yn ôl, cyn i Trump gael ei ethol am y tro cyntaf. Mae hi’n siarad gyda phobl mae hi’n cyfarfod a nhw ar y ffordd ac weithiau yn aros gyda theuluoedd lleol hefyd ac yn disgrifio’r llefydd lle mae hi’n teithio trwyddyn nhw hefyd. Weithiau gwastadau di-ri gyda chaeau ŷd; ac weithiau cefn gwlad sydd yn ei hatgoffa hi o Gymru. Ond mae hi’n gamp i sgwennu am y fath brofiad mor dda.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home