Ailddysgu

Sunday, 12 July 2026

Dim Gŵyl Arall eleni

 


Dydd Iau, 9fed Gorffennaf.

Wel, mae’n edrych yn debyg iawn na fyddaf yn mynd i Ŵyl Arall yng Nghaernarfon eleni.  Dwi’n siomedig.  Dwi wedi bwcio lle i aros, (tafarn, eleni: y Black Boy); tocynnau ar gyfer digwyddiadau, a’r trên.  Felly beth sydd wedi digwydd?  Am un peth mae hi’n grasboeth, ac efallai bydd hynny’n cael effaith ar y trenau, ond am ŵn i, maent yn rhedeg yn iawn.  Ond, fel dach chi’n gwybod, dwi’n arddwr brwdfrydig, ac mae gymaint o waith dyfrio a jyst cadw pethau’n fyw ar y funud.  Fel arfer, mi fase fy ngŵr yn dyfrio’r ardd a’r tŷ gwydr, er ei fod yn joban olew yn y tywydd yma - yn gynnar yn y bore a hwyr gyda’r nos, ond mae o wedi brifo’r ben glin ac yn methu cerdded llawer na sefyll.  Ac ar ben hynny, mae’r ci yn dioddef o golitis ac isio mynd allan yng nghanol y nos...felly mae ffawd wedi camu i mewn, dwi’n meddwl.  Ond dyna ni.

 

Heno, mae canlyniad llyfr y flwyddyn yn cael ei gyhoeddi.  Dwi wedi darllen dau o’r llyfrau – neu wedi trio.  Un ydy llyfr Mererid Hopwood “Mae”: cerddi hyfryd.  Dwi heb ddarllen nhw i gyd, ond wedi darllen sawl.  Hefyd prynais y nofel 'Dau', Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn) ond dim wedi cael llawer o hwyl gyda hi.  Dwi’n dychmygu ei fod yn dipyn o waith beirniadu’r gystadleuaeth.

 

Fel mae hi’n digwydd dwi’n mynd i gyfarfod ein clwb darllen Saesneg heno: i drafod Seascraper, nofel Benjamin Wood.  Dwi ddim cweit yn siŵr am y nofel yma.  Sgwennu gwych – ond llyfr od.  Os taswn yn mynd i Gaernarfon mi faswn wedi chwilio am lyfrau newydd Cymraeg i ddarllen ond gan fy mod yn debyg iawn yn aros yn famau, bydd rhaid eu harchebu nhw trwy’r post.  



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home