Ailddysgu

Sunday, 3 May 2026

Tipyn o law

Wel o’r diwedd dan ni wedi cael tipyn o law.  Ar ôl diwrnod arall poeth, echdoe (ond dim mor boeth â’r diwrnod cynt) dechreuodd fwrw glaw (neu dechreuodd lawio) tua  6 o’r gloch ac roedd y glaw yn drwm, am dipyn, beth bynnag.  Bydd hyn yn rhyddhad i’r ardd, sydd wedi bod mor, mor sych.  Ddylai mis Ebrill ddim bod mor sych, ond mae newid hinsawdd wir yn cael effaith, yn enwedig yn yr ardal sych yma.

 

Serch hynny, mae’r ardd wedi edrych yn fendigedig, ond ro’n i yn treulio mwy a mwy o amser yn dyfrio: yn trio cadw’r planhigion yn fyw: yn enwedig rhai yr oeddwn wedi eu plannu yn ddiweddar.


Am ryw reswm, roedd y planhigion a ddechreuais yn gynnar yn y tŷ gwydr ym mis Chwefror ddim wedi gwneud yn dda o gwbl.  Dyma'r pupurau ar ôl dau fis: bach a phitw. 






Dechreuais mwy o hadau pupurau a bydd y rhain yn iawn ond yn hwyr, a fydd rhaid prynu planhigion aubergines.  Bydd y tomatos yn iawn, dwi’n credu, ond eto yn hwyr.

 Tu allan i’r tŷ gwydr, mae’r ardd wedi bod yn edrych yn ffantastig.  Dyma olygfa “fenthyg” gyda’r goeden ddraenen wen sydd tu allan i’r ardd. 



 A dyma’r tiwlip “balerina” mewn potyn: llwyddiant ysgubol. 


Maen nhw wedi bod yn blodeuo am wythnosau.  Ar ôl gorffen y gwely asbaragws dwi wedi aros cyn dechrau ar y gwlâu eraill (heblaw dipyn o ysgall ddeilen (chard) er mwyn i’r glaw ddod.  Gobeithiaf fydd y glaw yn helpu dod â phethau ymlaen! 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home