Ailddysgu

Sunday, 18 October 2026

Pethau Cymraeg yn lleol

Yn raddol, dwi’n cael gwared ag annwyd drwm.  Dwi wedi bod yn pesychu ac wedi cael dolur gwddw eithaf poenus - ac o ganlyniad, heb yr awydd i wneud llawer o gwbl, heblaw gorffwys, dipyn o ddarllen a gwylio cyfresi ditectifs ( a lol arall) ar S4C.  Ond a deud y gwir, mae safon “Cymru noir” yn dda.  Daliais i fyny gyda’r ddwy gyfres o “Cleddau” ac wedyn y gyfres ddiweddar o “Y Golau” (dim wedi gweld y gyfres gyntaf..) ac ar ôl hynny dwi’n ail gwylio “Y Gwyll”, fesul tipyn.

 

Felly am dipyn o amser bob diwrnod dwi wedi bod mewn byd bach Cymraeg, ond yn raddol dwi’n teimlo’n well ac yn edrych ymlaen at gydio yn yr ardd eto.  Ond cyn hynny, cefais y cyfle i fynd i weld y ffilm “Effi o Blaenau” yn lleol.  Mae clwb ffilmiau eithaf lleol (ryw 7 filltir i ffwrdd) ond dwi erioed wedi bod yna tan neithiwr.  Wrth glywed bod Effi ymlaen prynais docynnau ac es yna gyda fy ngŵr a phedwar person arall o’r grŵp Cymraeg lleol.  Fel roedd yr adolygiadau yn dweud, ffilm bwerus, a pherfformiad gwych gan Leisa Gwenllian ac am fraint cael gweld y ffilm yn fama.  Collais tamaid bach - ’roedd rhaid i fi gamu allan am dipyn oherwydd fy mod yn pesychu ond edrychaf ymlaen at ddal i fyny ar S4c yn hwyrach yn y flwyddyn. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home