Poeth a sych
Wel mae hi’n boeth ofnadwy yma heddiw: eto. Ac er ei fod yn wych medru cerdded ar y comin yn yr haul erbyn 7 o’r gloch bron bob bore, mae hi’n sefyllfa sydd yn achosi gofid. Mae bob man mor sych, a thannau gwyllt yn dinistrio coedwigai, natur a rhosydd yn y wlad yma a thai yn Ffrainc a Sbaen ac yn bygwth bywydau pobl. Dwi’n wir gobeithio bydd llywodraethau yn dechrau gweithio i atal fwy o ddirywiad hinsawdd ond mae’n debyg ma
Beth bynnag, dwi’n trio cadw pethau’n mynd yn yr ardd, lle mae hi’n bosib. Mae rhai pethau, fel y llysiau'r milwr coch (loosestrife) yma yn ffynnu. Dim y rhai gwyllt dan ni yn eu gweld yn y cefn gwlad ydy’r rhain, ond blodau’r ardd. Mae’r rhosod newydd yn goroesi, ond faswn i ddim yn dweud eu bod yn ffynnu. “Dainty babis’ ydy enw’r rhosyn - a gwnes waith ymchwil drwyadl a dewis hon am ei fod yn addas i’r llecyn (dim rhy fawr), a gyda blodau sengl - sydd yn bwysig i’r peillwyr. Dyma lun ohoni yn gynharach yn y flwyddyn.
Felly dwi’n treulio oriau yn dyfrio ar y funud: gyda chan dyfrio. Dwi’n dechrau gyda’r tŷ gwydr yn eithaf cynnar yn y dydd (ar ôl hynny: rhy boeth!). A dwi wedi dysgu bod wylysiau ( aubergines) ddim yn hoff o dywydd poeth, poeth a dydy’r ffrwythau ddim yn datblygu. Ond mae rhai mathau yn gwneud yn well nac eraill. Mae’r rhai tenau, hir yn gwneud yn dda - ond dim y rhai tew dwi’n hoffi! Dwi wedi rhoi blodau rhwng y wylysiau a rhwng y planhigion pupur hefyd. Blodau Mair (marigolds) - i atal y pryfed gwyn, a ”cerinthe“ i ddenu peillwyr. A heddiw gwelais fod gwenynen gribog yn brysur yn eu peillio.
Er gwaetha’r poethder dwi wedi llwyddo i gael gnwd o domatos, ciwcymber (gymaint!), courgettes, ffa ac ambell fefus? Mae’r mafon hydrefol yn blodeuo a dwi’n cael ambell ffrwyth, ond dydy nhw ddim yn hoffi tywydd poeth o gwbl – ac yn bendant ddim yn hapus gyda tywydd sych, felly dwi wedi bod yn eu dyfrio dipyn.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home