Sychder, glaw a chynyrch
Yn fama, mae’r sychder yn parhau a dwi’n treulio llawer o amser yn dyfrio’r llysiau, a rhai planhigion eraill. Dydy’r goeden hardd, yr “amalanchier”, ddim yn gwrthsefyll y sychder yn dda iawn. Mae hi yn yr ardd ers rhyw dair neu bedair blynedd - dim digon hir i oroesi cymaint o sychder. Mae’r goeden geirios fach yn yr un sefyllfa ac wedi bod yn dioddef. Ar wahân i’r ardd fawr yn y cefn mae gardd ffrynt hefyd - a does dim dŵr ar gael yno unwaith i’r gasgen ddŵr sychu. Felly mae’n rhaid i’r planhigion yn y ffrynt oroesi heb gael llawer o ddyfrio: o bryd i’w gilydd dwi yn mynd a dŵr yno, ond dim digon yn y tywydd yma. Ac mae’r gwely ar waelod yr ardd ffrynt yn edrych yn drist iawn erbyn hyn.
Ond heddiw roedd yr arolygon yn sôn am law ysgafn trwy’r dydd – ac efallai glaw trwm yn y bore, ond na, dim yn fama. Cawson ni law am ryw tair awr y bore ’ma. Dim digon o bell ffordd, ond efallai bydd hyn yn helpu rywfaint.
Ar hyn o bryd, mae’n anodd dweud a ydy planhigyn neu goeden yn dal yn fyw, neu beidio. Mae coed yn gollwng eu dail ac yn “hydrefu” yn gynnar os ydynt dan straen. E.e., dyma dderwen sydd ar safle ein hamgueddfa leol, a dydy hi ddim yn wyrdd erbyn hyn.
Ond mae hon yn wyrdd a heb golli dail eto: efallai am ei bod yn agos at bwll ac mewn mwy o gysgod.
Felly mae rhai o’r coed yn yr ardd yn gollwng eu dail, a rhai o’r llwyni hefyd. Ond mae’n anodd gwybod a fyddan nhw’n goroesi nes daw'r Gwanwyn.
Wrth gwrs, dwi wedi bod yn dyfrio yn yr ardd llysiau – ac wedi cael digonedd o courgettes, ffa Ffrengig a phupurau ( y rhai o’r tŷ gwydr) – a chiwcymbr. Yn anffodus mae spider mite wedi cael gafael ar y pupurau a’r ciwcymbr felly roedd rhaid tynnu’r ciwcymbr allan – a chroesi bysedd am y pupurau ar ôl chwistrellu dŵr a sebon drostyn nhw.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home