Gwalia Aleighcia
Mi ddois ar draws rhaglen Aleighcia Scott “Gwalia Aleighcia” ar hap a damwain. Digwydd gweld hen raglen o Heno (a ddarlledwyd yn ôl ym mis Awst) lle'r oedd Aleighcia yn sôn am y gyfres newydd yma, sydd yn trafod hanes a chaneuon Cymraeg. Yn y bennod gyntaf mae hi yn y gogledd yn trafod shantis: ym Miwmares ac yng Nghaernarfon. Mae Aleighcia wedi dysgu Cymraeg yn eithaf diweddar a rŵan yn canu yn Gymraeg. Dwi wastad wedi meddwl bod cerddi a chaneuon yn ffordd wych o ddysgu iaith hefyd.
Yn fy mlog am gerddi Caernarfon soniais am y sgwennu ar y llawr ar y cei a sut roeddwn wedi tynnu lluniau o lawer o’r dyfyniadau. Ond rywsut, doeddwn ddim wedi tynnu llun o ddyfyniad o “Longau Caernarfon”: "Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio". Dyna’r sianti sydd yn cael ei drafod yn y bennod gyntaf o’r rhaglen. Hefyd soniwyd am y clwb hwylio eiconig yng Nghaernarfon a dwi'n cofio cael bach o hwyl yn y clwb hwylio lle roedd criw ohonon ni yn canu Llongau Caernarfon yn ystod un Ŵyl arall wrth i’r haul fachlud. Dyma'r geiriau:
A dyma Hogiau'r Wyddfa yn canu Llongau Caernarfon:
Dwi wedi sôn hefyd mewn blog yn y gorffennol mai un o ddigwyddiadau yn ystod Gŵyl Arall weithiau oedd trip ar y Fenai yn gwrando ar siantis. A dwi'n cofio canu sianti ar un o’r tripiau yno: dim “llongau Caernarfon” ond sianti arall boblogaidd: “Fflat Huw Puw”. (A dyna ddysgu rhywbeth bach ar y pryd – mai math o long ydy “fflat”.)
Wrth sôn am bethau morwrol ddylwn gofio am Ellen Edwards a sefydlodd ysgol forwriaeth yng Nghaernarfon, lle dysgodd dros 1,00 o ddynion i fod yn forwyr (roedd sôn am hyn yn rhaglen Aleighcia hefyd). Digwyddiad rhyfeddol wrth gofio mai merch oedd Ellen a oedd wedi dysgu morwriaeth oddiwrth ei thad, yn Amlwch, Sir Fôn a bod ni’n sôn am y ddeunawfed ganrif – 1830!

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home