Ailddysgu

Thursday 29 January 2009

Dw i wedi mwynhau darllen Cysgod Y Cryman. O'n i ddim yn siwr, i ddechrau. Mae'r hanes yn digwydd mewn oes sydd wedi mynd heibio– a hyd yn oed yn y llyfr, mae'r oes yn dod i ben. Yr oedd y trafodiaeth o gomiwnyddiaeth yn ddiddorol hefyd – a mae'n siwr oedd yn beth dewr i ysgrifennu amdano ar ye adeg. Dw i bron allan o lyfrau dw i eisiau darllen rwan. Mae Un noson ola ger y gwely – a mae'r adolygiaid i gyd yn dweud mor dda ydy hi – ond dw i ddim wedi cael hwyl arno fo.

English summary
Really enjoyed "Shadow of the sickle". Not sure to start with. The book takes place in the past - indeed even in the story that age (of wealthy farmers employing staff) is coming to an end. The discussion of commuism was interesting too - and I imagine a brave thing to write about at the time (1953). Am now nearly out of books I want to read. One bright moonlit night is sitting by the bed - and the reviews all say it is brilliant, but I can't get to grips with it. It is written in almost a stream of consciousness style - does feel a bit like a Welsh James Joyce - and that is just too challenging for me at the moment! As you may have noticed this English summary is longer than the Welsh - find it very hard to write about books in Welsh-but am going to persist.

2 Comments:

At 31 January 2009 at 06:43 , Blogger Gareth said...

Annwyl Anne

Trïa rhai o’r rheina

unrhyw beth gan

T Llew Jones
yn enwedig
Tân ar y Comin, Un Noson Dwyll, Parti Du a’r holl gyfres o’r Anturiaethau Twm Sïon Cati. Llyfrau ar gyfer plant yn eu harddegau maen nhw, llawn dirgelwch’ lladron y ford ac ati. Ond mae'r dull a’r Gymraeg ym mendigedig.
Cyhoeddir gan Gomer

Bethan Gwanas
Yn enwedig
Gwarch Y Gwyllt, mwynheais hon er (neu ar ganlyniad) y tueddiad i o ddisgrifio digwyddiadau rhywiol. Mae ei llyfrau hi sy’n disgrifio ei theithiau o gwmpas y byd yn ddoniol ac yn diddanu bob tro.

T. Rowland Hughes
Ar enghraifft
Y Cychwyn neu Chwalfa sy’n trafod hanes y diwydiant chwareli'r Gogledd. William Jones, yw’r gorau i fi. Hanes dyn sy’n sy'n penderfynu gadael Gwynedd i chwilio am waith yng nglofeydd yn y dde.

Mihangel Morgan
Fy hof awdur Cyfoes Cymraeg. Nifer ar gael ond trïa
Dirgel Ddyn (sy’n enwog) Dan Gadarn Goncrit (n o’i nofelau mwyaf swrrealaidd. Dw’i gwybod bod llawer yn meddwl ei fod e’n “od” ac mae ei wlad yn llawn pobl lwyd yn methu ymdopi gyda’u bywydau. Ond mae ei wëith yn ymddangos pethau syml neu erchyll mewn golwg anghyfarwydd. Mae e ar ei orau dy i’n honni, yn ei straeon byrion. Dechra gydag un ‘r casgliadau sef Cathod a Chwn neu Saith Pechod Marwol.

Dau awdur o’r Gogledd

Eirug Wyn
Dw i’n cael hon yn anodd i’w dalen am fod e’n defnyddio geirfa a mynegiadau’r Gogleddol, - yn enwedig Cymraeg Penllyn! Efallai bydd dy Gymraeg (ardderchog) ti yn fwy hapus na fi gyda llyfrau fel Blodyn Tatws neu “Y Dyn yn Y cefn heb fwstach

Harri Parri
Howard a Jac Black
Shamus Mulligan a’r Parrot.
Yn yr un ford mae’r gyfres boblogaidd Harri Parri yn gynnwys straeon byrion llawn “satire” wedi sgwenni yn yr acen, iaith a gyda chefndir y gogledd.”.
Cyhoeddir gan Wasg Pantycelyn

Margaret Lloyd Jones
O Drelew i Ddrefach
Hanes Ellen Davis a ymfudodd a’i theulu i Batagonia yn 1875. Yn rhan o’r fintai obeithiol oedd am wireddu breuddwyd o’ sefydlu gwlad hollol Gymreig yn De America. Llyfr gwych!
Cyhoeddir gan Gomer

Gareth

 
At 8 February 2009 at 11:13 , Blogger Ann Jones said...

Gareth
Diolch am y rhestr hwn (hon?). Fel y dwedais i ti dwi am (wir yr) ddarllen llyfrau T Llew Jones. Dwi'n meddwl bod fi wedi darllen rhan mwyaf o lyfrau Bethan Gwanas - ond dim y llyfrau am ei teithiau (heblaw y Geiriadur cadwodd i pan oedd hi'n gweithio i'r VSO (dw i'm yn cofio be di VSO yng Nghymraeg!). Dwi wedi darllen dwy lyfr gan T. Rowland Hughes - O Law i Law (R'oedd rhaid darllen honna am ein "O level" ond anghofiais y llyfr yn llwyr a mwynhais darllen o eto. Ond dwi'n cytino bod William Jones yn well. Dwi wedi trio Mihangel Morgan - ond dim wedi gorffen Cathod a Chwn eto. Na'i trio'r lleill, hefyd, mewn amser!

Hwyl
Ann

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home