Wedi dychwelyd o wyliau yn Coniston i ddarganfod bod yr haf wedi troi i Hydref tra roedden ni i ffwrdd. Roedd o ddigon hydrefol yn Coniston hefyd i ddweud y gwir - a digon o law. Efallai mwy am hynny mewn post arall.
R’on yn gobeithio bod popeth wedi goroesi yn yr ardd a’r tŷ gwydr, gyda fy mab mewn cyfrifoldeb; a chwarae teg, am rhywyn sydd ddim yn arddwr, mi wnaeth yn dda. Dim byd wedi marw; popeth yn iawn yn y tŷ gwydr - a digonedd o lysiau a ffrwythau i gasglu.
Mi aethon ni a ddau bocs o afalau efo ni i Coniston - a gadael y rhai wnaethon ni ddim bwyta gyda’n ffrindiau. Mae’r coeden yn ffrwytho yn dda iawn - “Discovery“ ydy hi - afalau blasus unwaith mae nhw wedi aeddfedu, ond dydy nhw ddim yn cadw am hir iawn. Felly mae rhaid bwyta nhw, rhoi nhw i ffrindiau neu defnyddio nhw yn y gegin. Mae ychydig ar ol ar y goeden, ond mae’r rhan mwyaf wedi eu casglu rŵan.
Roedd llawer o’r ffa wedi mynd yn rhy fawr a tew; a rhai o’r courgettes, fel sy’n anochel, wedi datblygu i fod yn fadruddion (erioed wedi dod ar draws y gair yma - ond dyna be ydi “marrow“ yn ol yr ap geiriaduron). Digon o basil i wneud pesto eto, Dwy flanhigyn wy mawr yn y tŷ gwydr - a llond bowlen o mafon i fynd i’r rhewgell.
Felly ar ol y casglu penderfynnais gwneud cyri gyda’r
aubergines, gan defnyddio ryseit gan
Nigel Slater a oedd wedi cael ei dori allan o'r papur a wedi bod yn y gegin am dipyn. Mi roedd yn flasus iawn hefyd - er ei fod dim yn edrych rhy dda yn y llun - ac am unwaith mi roedd ’na ddigon coriander yn tyfu yn y tŷ gwydr i ddefnyddio.
A heddiw daeth parsel trwy’r post o siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon. Dau lyfr gyda cyswllt a bwyd hefyd: Gwreiddiau, hunangofiant
Medwyn Williams
Llyfr trwchus - a dwi’n edrych ymlaen i’w ddarllen. Yr ail lyfr ydy’r nofel Blasu, gan Manon Steffan Ros. Mae sawl person wedi awgrymu’r llyfr yma i fi ac yn ol adolygiad Golwg:" Ar wahan i reoli strwythyr yn nofel, mae bwyd yn elfen bwysig ym mhlot Blasu". Ardderchog - cyfuniad o fwyd a darllen.......
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home