Ailddysgu

Monday 1 July 2013

Darllen a garddio


Wnes i ddim lwyddo i flogio eto cyn diwedd mis Mehefin.  Parhau yn brysur a dyma ni ar ddechrau mis Gorffenaf.    

Wythnos diwethaf es i gyfarfod Clwb Darllen Llundain.   Y tro yma roedden yn trafod Un Nos Ola Leuad.  Heb y Clwb Darllen, dwi ddim yn meddwl faswn wedi gorffen y nofel.  R'on wedi ei ddechrau darllen hi mwy nag unwaith.  Ond y tro yma, llwyddais i orffen y llyfr.  Dwi ddim yn siwr sut i ddisgrifio'r profiad - byd gwahanol yn sicr; llyfr trist iawn mewn llefydd - ond dim mor ddu a roeddwn yn disgwyl.  Mae'r bachgen bach sydd yn dweud y stori yn annwyl iawn, ac yn ddiniwed, ymysg y helynt a'r digwyddiadau erchyll a trist sydd o'i gwmpas.  Ac yn sicr llyfr pwerus.  Buom yn trafod am dipyn am gysylltiad y llyfr a bywyd Caradog Pritchard.  Dywedodd yn glir nid hunangofiant oedd y llyfr.  Eto, mae gymaint o bethau sydd yn digwydd yn y llyfr wedi ei seilio ar ei fywyd o.  Ond yn y diwedd dwi'n meddwl ein bod ni'n cytuno bod rhaid i'r llyfr sefyll ar ben ei hun fel nofel - a gweithio i ddarllenwyr sydd ddim yn gwybod llawer am fywyd yr awdur.  Mae fy grwp darllen Saesneg am ddarllen a drafod y gyfieithiad - dwi ddim wedi darllen llawer ohono fo eto - mi fydd o'n ddiddorol gweld sut fath o brofiad bydd darllen y ferswin yna.

A rwan dwi wedi dechrau darllen Diawl y Wasg,  gan Geraint Evans - awdur Y Llwybr a Llafnau.

Yn sicr mae'n anodd cael yr amser i wneud y garddio sydd angen: a dydy pethau ddim wedibod yn hawdd eleni.  Mae popeth yn hwyr - dim mafon eto - fel arfer mae nhw'n dod ym mis Mehefin.  A popeth yn sych.  A'r llygod yn bwyta'r hadau cyn iddyn nhw dyfu - felly roedd rhaid ailddechrau y ffa dringo mewn potiau a symud y potiau i mewn i'r ty, lle, hyd at hyn (diolch byth) does na ddim llygod!



Ond, dan niw edi dechrau cael y mafon - dyma llun o'r rhai cyntaf: blasus iawn


A dyma llun o'r ty gwydr o'r "stydi"


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home