Cawsom ddiwrnod
ardderchog yn yr ysgol coginio dydd Sadwrn. Mae’r ysgol yn cael ei
redeg gan Rachel Demuth. Dwi wedi bod unwaith o'r blaen a chael profiad anhygoel pryd hynny hefyd - bwyd gwych, dysgu gwych mewn sefydle ardderchog. A mynd adref gyda dipyn o wybodaeth newydd - ac ysbrydolaeth. Bwyd Deheuol Eidaleg oedd ar y fwydlen. Felly gwnaethon mewnion?? (fillings) ar gyfer rafiloli a pasta eraill – a gwnaethon y pasta hefyd,
sawsiau gwahanol a pwdinau.
Dwi ddim wedi cael llawer
o amser i ymarfer ar old dwad adref, ond dwi wedi defnyddio dipyn o
gynwys o’r ardd i wneud salad Eidaleg gwyrdd gyda spigoglys, rocet,
perllys: dwi wedi trio dau fersiwn wahanol rwan; un efo cnau cyll o’r perllen
gerila (cnau llynedd).
Hefyd mi wnes i ‘salsa
verde’ gyda basil, mintys a.y.y.b. Dwi wedi meddwl am gwneud y saws yma
am dipyn o amser ond byth wedi trio o’r blaen. Mae ryseits gwahanol ar
gael – dyma un gan Nigel Slater.
A dyma llun o’r un y
cawsom ni.
Yn y diwedd, cawsom y saws gyda tatws newydd – dim rhai ni o’r
ardd (er bod y rhain bron yn barod dwi’n meddwl).
A dyma ddwy lun arall
o’r ardd. Dwi wedi treulio llawer o amser yn dyfrio (yn y bore gynnar a
gyda’r nos) a casglu ffrwythau a llysiau. Dyma’r pŷs - y tro cyntaf i fi
tyfu nhw:
A'r mafon - sydd ddim yn hoff o'r tywydd poeth o gwbl.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home