Ailddysgu

Wednesday 17 July 2013

Yr ardd boeth a bod yn Nain


Mae dyfrio’r ardd yn cymryd gymaint o amser ar y funud - bob diwrnod yn sych, heulog ac yn boeth.  Serch hynny, mae’r gardd wedi bod yn edrych yn dda iawn - ond rŵan, mae’r lawnt yn felyn a’r pridd fel rhywbeth yn yr anialwch.  Mae  llawer o’r llysiau wedi methu eleni fel y shibwns, y panas a’r sbigoglys  - er tan yn ddiweddar, mi wnes i drio roi digon o ddŵr iddyn nhw.  Ond mae’r ffrwythau fel y gwsberen wedi gwneud yn ddai iawn (er i’r dail cael eu fwyta i gyd gan  bryfed).



A mae’r ffa llydan yn barod - mi wnes i salad gyda iogwrt gyda nhw dydd Sul - a’r pys “Mangetout“ hefyd.  Felly dwi wedi treulio llawer o amser yn casglu ffa a gwsberen (rhai wedi eu fwyta a rhai yn y rhewgell), a dipyn o cwrans du a mafon (er bod y rhain ddim yn gwneud yn dda o gwbl yn y gwres).



Mae’r rhwystredig - dwi ddim yn y gwaith wythnos yma - ond dwi ond yn medru gweithio yn yr ardd yn gynnar yn y bore a gyda’r nos.  A mae dyfrio yn cymryd gymaint o amser.

Y newyddion arall ydy bod fy mab a fy merch yng nghyfraith  newydd cael eu babi gyntaf, Teigan.  Felly dwi’n nain newydd!  Dyma llun ohoni hi.



Mae’r swyddogaeth newydd yma wedi achosi i fi feddwl am fy nain i, a’r rhan chwaraeodd hi yn fy mhlentyndod.  Ro’n yn arfer mynd i aros gyda nain yn ei thŷ hi yn Ffrwdcaedu, rhwng Bontnewydd a Llanwnda.  Treulio amser yn yr ardd, ar fy meic ac yn mynd am dro gydai Nain.  Ond y peth pwysica, oedd mai Nain oedd yn gyfrifol, yn y bôn, am gwneud i fi siarad Gymraeg.  Dim bod hi’n gwrthod siarad Saesneg, doedd y peth ddim yn codi: cartref Cymraeg oedd ganddi hi, a roedden ni i gyd yn wybodol o hynny.  Wrth gwrs, pan oedd fy mam yna, a hi yn ddi-Gymraeg, siaradodd Nain Saesneg.
Felly, dwi’n edrych ymlaen am anturiaethau gyda Teigan yn y dyfodol.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home