Ailddysgu

Sunday 22 September 2013

Y cynhaeaf yn parhau - a heneiddio?


Wn i ddim os ydy o yn arwydd o heneiddio (“henaint ni ddaw ei hun...”) ond dwi’n ffeindio y dyddiau yma, bod bob popeth yn cymryd hirach na dwi’n meddwl ddylai fo.  Felly, er i mi wneud restr o bethau i wneud a oedd yn edrych digon resymol ar ddechrau’r penwythnos, llwyddiais i wneud ond ryw hanner ohonyn nhw.

Mae’r ffrwythau wedi bod yn anhygoel eleni, a mae’r rhewgell yn llawn o eirin - rhai gynnar, y Czar, rhai sydd i fod i aeddfedu yn hwyr (Marjorie’s Seedling) ond sydd wedi cael eu casglu a rhewi ar ôl hollti yn y glaw, a’r rhai diweddar, y Fictoria - lle r’oedd y cnwd mor drwm fel bod y coeden wedi hollti.  Dan ni wedi bod yn bwyta’r eirin (a mae nhw’n blasu’n ardderchog), yn gwneud pwdin gan coginio nhw am dipyn bach mewn Cassis (blasus iawn), rhoi nhw i ffrindiau a cydoedion yn y gwaith, a heddiw mi wnes i siytni eirin am y tro cyntaf.  Ryseit Delia Smith - mae o’n coginio rŵan - felly dwi ddim yn gwybod sut flas bydd arni hi eto!

Ddoe mi wnes i pesto - ryseit gan Monty Don y garddwr, mewn hel lyfr "Fforc to Fforc" dyma'r disgrifiad o'r cynhwysion: 

 6 oz of fresh basil leaves, picked and separated from stalks
2 oz pine nuts
3 cloves of garlic
half a teaspoon of salt
3 and a half ox parmesan cheese
1 oz pecorino cheese

(Digon i ddeuddeg)

Dwi ddim yn defnyddio'r pecorino a felly yn rhoi dipyn mwy o'r parmesan.  Mae nhw o gyd yn cael eu gymysgu yn y Magimix ar wahan i'r olew a'r caws sydd yn mynd i mewn wedyn: yr olew gyntaf, a wedyn y caws onibai eich bod am rhewi y pesto.  Os hynny, mae'r caws yn mynd i fewn ar ol i'r pesto dod allan o'r rhewgell a dadmar.  A rŵan mae na twbiau bach yn y rhewgell (bydd rhai ohonyn nhw yn anrhegion ’Dolig, dwi’n meddwl).

Felly ychydig o luniau.  Does dim llun o’r pesto ond dyma rhai o’r basil yn disgwyl.



A dyma llun o’r eirin sydd ar ôl - ar ol defnyddio 3 pwys mewn siytni, rhewi nhw, bwyta nhw a.y.y.b. - heb son am be sydd heb ei gasglu eto!


2 Comments:

At 22 September 2013 at 13:15 , Blogger Wilias said...

Waw, cnwd anhygoel! Eirin yn sal iawn acw. Dim un ffrwyth ar ein coeden eirinen Ddinbych (tair oed ydi'r goeden), a tlawd ydi'r eirin gwyllt hefyd. Ydi'r goeden Fictoria yn mynd i oroesi?

 
At 24 September 2013 at 13:21 , Blogger Ann Jones said...

Ydi dwi'n meddwl - er ei fydd yn llai nag oedd hi! Falle bod tair oed rhy ifanc o hyd? Mae'r coeden Fictoria ryw ugain flwyddyn neu fwy - a'r Czar rhyw 8 mlwydd. Ond braf cael coeden arbennig fel yr eirinen Ddinbych. Gobeithio bydd ffrwythau ar dy goeden ffrwythau blwyddyn nesaf

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home