Ailddysgu

Saturday 5 October 2013

Gwyl Lenyddiaeth Cymry Llundain

Heddiw, treuliais  dipyn o amser yn yr Wyl Lenyddiaeth Cymry Llundain.  Dechreuodd y gwyl nos Iau a heddiw yw'r dydd olaf.  Ro'n i'n gobeithio mynd i fwy ddigwyddiadau, ond yn rhannol am fy mod wedi bod dipyn yn sal dros y dyddiau diweddar, ro'n i yna ond am gyfnod byr.

Ond, ro'n i yna i glywed Ifor ap Glyn yn perfformio detholiad o'i waith a sgwenodd ar gyfer yr Eisteddfod eleni - ac wrth gwrs - y gwaith a enillodd y Goron.  Mi ddois ar draws gwaith Ifor ap Glyn ychydig o flynyddoedd yn ol, ar ddamwain, gan brynu cyfres o'i gerddi "golchi llestri mewn bar mitzvah" ymysg llwyth o lyfrau o Oxfam ym Mangor.  Doedd gen i ddim gwybodaeth am yr awdur - ond roeddwn wrth fy modd fy mod i'n medru darllen ( a deallt)  rhai  o'r cerddi  - ac, yn well byth, fy mod i'n mwynhau nhw.  Felly roedd yn fraint ac yn wych cael clywed Ifor yn darllen ei cerddi llwyddianus, ac yn dweud rhywbeth amdanyn nhw p'nawn ma - a dyma llun gwael o'r digwyddiad yn y Ganolfan yn Llundain.


Roedd digwyddiadau yn y Saesneg hefyd.  Arhosais digon hir i glwyed rhan o'r sesiwn "Poetry with a Punch" (y rhan fwyaf o'r ddigwyddiad yn Saesneg), a darganfod gwaith gwych Martin Daws, Joe Dunthorne a Molly Naylor.

Bu rhaid i fi adael cyn lansiad llyfr Sioned William "Dal i Fynd" ond prynais y llyfr a dechreuais darllen o ar y tren yn dod adref.  Roedd heddiw i'w weld yn llwyddianus iawn, beth bynnag, gyda bwyd poeth a diod ar gael (y bar ar agor wrth gwrs) a digon o fwrlwm a heno mae cipolwg ar ddathliad canmlwyddiant Dylan Thomas.  Y gobaith ydy cynnal y Gwyl blwyddyn  - a fydd yn wych!

2 Comments:

At 6 October 2013 at 01:23 , Blogger Cath said...

Diolch am hyn Ann - wyddwn i ddim am fodolaeth yr Wyl.

 
At 7 October 2013 at 13:32 , Blogger Ann Jones said...

Wel gawn ni weld os ydy'r digwyddiad wedi bod yn ddigon lwyddianus i'w chynal flwyddyn nesaf, hefyd. Gyda llaw - diolch am y gwybodaeth am flogiau garddio Cymraeg ar dy flog. O leiaf un doeddwn i ddim yn gwybod amdano - Cadw Rhandir.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home