Ailddysgu

Sunday 23 August 2015

Twtio

Dwi wedi bod yn treulio llawer o amswer yn dyfrio yn yr ardd.  Dwi’n gwybod bydd y rhai ohonoch chi sydd yn byw yng Nghymru yn chwerthin, ond wir yr, dan ni mewn ardal  sych ofnadwy a dim wedi cael llawer o law o gwbl dros yr haf.  Yn bendant dim digon.  (Ond mae glaw ar y ffordd.) Felly, mae llawer o amser wedi mynd yn sicrhau bod y planhigion, a’r coed yn enwedig, yn llwyddo.  Dydw i ddim yn dyfrio’r coed sydd wedi bod yno am rhai flynyddoedd, ond y rhai ifanc, ond eleni, roedd rhai o’r coed hyn yn dioddef hefyd, fel y coeden eirin yma:



Gobeithio bydd y coeden yn gwella ar ol dipyn o ofal a llawer o ddŵr! Ond mae angen gwneud pethau eraill yn yr ardd heblaw dyfrio, ac o’r diwedd, dwi wedi gwneud dipyn o waith yn un gwely mafon.  Rhywsut, mae’r mafon haf a’r mafon hydref wedi cymysgu yn y gwely yma - mafon ha sydd i fod yna.  Ond doedden nhw ddim wedi cael llawer o ofal.  Ond ddoe a heddiw, ro’n i’n tynnu’r chwyn i gyd; dyfrio; rhoi dipyn o faeth iddynt, torri’r planhigion a oedd wedi rhoi ffrwythau eleni, a. y.y. b.  Yn anffodus gwnes i ddim cymryd llun cyn ddechrau, ond dyma sut roedd y gwely wedi i fi orffen gyda rhoi compost (cartref) ar y gwely.  



Dydy’r lluniau ddim yn dda ofnadwy ond dwi’n falch gweld trefn ar y lle.  Mae rhyw syniad i’w gael o sut oedd y gwely wrth edrych ar llun y gwely arall.

Mae gormod i’w gwneud, fel arfer.  Mae’r afalau cynnar, “Discovery“ i gyd yn barod a mae gymaint ohonyn nhw. Dyma ychydig.


Dwi’n bwyta nhw; mynd a nhw i’r gwaith i fy nghyd-weithwyr, rhoi nhw i ffrindiau a chymdogion, a choginio gyda nhw, a mae 'na llwyth ar ôl.  Dwi ddim isio rhoi llawer yn y rhewgell - mae o’n eitha llawn o ffrwythau eraill! Mae ddigonedd o bethau da i'w bwyta ar y funud.



Dwi wedi bod yn twtio yn y tŷ gwydr hefyd - a mae’r nionod a’r shallots i gyd mewn bocsus rŵan ar ol bod yn sychu yn y tŷ gwydr. 


A heno mi fyddaf yn gwneud saws tomato i roi yn y rhewgell.  Mae rhywbeth am gwneud pethau gyda cynnwys yr ardd, fel rho nhw i ffwrdd am y gaeaf, neu gwneud jam, sydd yn gwneud i fi deimlo’n dda……...

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home