Yn yr ardd, mae o wedi bod yn wanwyn anodd. Oer a gwyntog, tan ddiweddar. A’r pridd yn cael ei sychu gan y gwynt, hyd yn oed ar ol gawodydd drwm. Felly, dyma sut mae’r panas yn edrych:
Dim un wedi dod i fynny - a dwi wedi gwasgaru’r hadau o leiau ddwywaith, efallai mwy….
Dydy’r ffa ddim llawer gwell, ond ambell un wedi dod i fynny. Ond mae’r planhigion a aeth i fewn yn yr hydref, neu yn gynar, yn wneud yn dda: y nionod, a’r ffa llydan a’r sialots.
Rhois gynnig ar flodfresych eleni hefyd - a roedd y planhigion yn wneud yn dda am ychydig o ddydiau, tan i’r sguthanod fwyta nhw. Mae par o’r adar yma wastad yn yr ardd, a mae nhw yn bwyta fel d’wn i’m be - mae rhaid rhoi rhwyd ar bopeth fel bresych ac yn y blaen.
Dwi wedi cael wythnos brysur a hyfryd gyda ffrind a oedd draw o America, ac un o uchafbwyntiad yr wythnos oedd mynd i
Otmoor - gwarchodfa RSPB ddim rhy bell o Rydychen, felly ryw awr i ffwrdd i ni. Dwi erioed wedi bod o’r blaen, a mae o’n le hyfryd iawn, a heddychol. Un o’r adar gyntaf i ni weld oedd y
turtur. Mae hon ar y rhestr goch: un o’r adar lle mae’r niferoedd wedi gostwng yn ofnadwy. Dwi erioed wedi gweld un o’r blaen. Dyma rhai luniau, yn cynnwys rhai o’r turtur a'r bod y gwerni (marsh harrier) - ond mae rhain braidd yn bell i ffwrdd.
Labels: bod y gwerni, bras y cyrs, Otmoor, turtur
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home