Ailddysgu

Monday 6 July 2015

Hampton Court ac ein gardd ni

Aethom gyda ffrindiau o’r grŵp llyfrau MK, i’r sioe blodau yn Hampton Court dydd Gwener diwethaf.  Diolch byth roedd y tywydd ddim mor boeth ag ar y ddydd Mercher gynt.  Hefyd, yn anhebyg i Chelsea, gan fod y lleoliad mor fawr, roedd yn bosib gweld y gerddi - i rai rannau beth bynnag, er bod y lle yn llaw bobl.  

Felly mwynhais gerddi fel y rhai islaw:




Ac wrth cerdded yn ol, aethom heibio’r gardd llysiau Hampton Court - dwi wastad yn hoff gweld hen gerddi yn llawn o lysiau a ffrwythau.
Ac yn ol yn ein gardd ni, mae’r nionod wedi aeddfedu, dwi’n meddwl, ac yn barod i ddod allan.  Dyma un:


A dwi wedi dechrau ar y cennin.  Dyma’r planhigion sydd wedi tyfu o’r hadau:


A dyma rhai ohonyn nhw dwi wedi symud i’w gwely newydd.  


Llynedd cawsom fawr ddim o gennin, oherwydd y tywydd poeth a sych a ddaethod ar ol i ni fynd i ffwrdd - a neb i ddyfrio’r cenin a oedd wedi cael eu osod yn y gwlau newydd.  Felly eleni, dan ni yma am bron bythefnos, a gobeithio cawn roi ddigon o dwr i’r planhigion i gadw nhw’n iach. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home