Penwythnos diwethaf roeddwn yn dweud pa more sych oedd yr ardd - ond wrth gwrs, wedi dweud hynny, daeth digon o law....a dan ni wedi cael cawodydd trwy’r wythnos, ond llai o law, dwi’n credu, na gweddill y wlad.
Beth bynnag, ar ol yr holl law, roedd heddiw digon sych, felly dipyn o waith yn yr ardd, yn cynnwys codi mwy o datws - a mae nhw wedi dod ymlaen yn dda:
“pink fir apple“ ydy’r rhain, ac wrth clirio’r pridd, dod ar draws y lindysyn yma:
dwi’n meddwl mai lindysyn gwalchwyfyn y poplys ydy hwn? (Ond does dim coed poplys yn yr ardd...)
A wedyn mynd am dro. Dwi ddim wedi bod yn cerdded gymaint yn ddiweddar - ond dwi am gwneud dipyn mwy. Dyma rhai o’r lluniau, yn cynnwys y defaid Herdwick: rhyfedd gweld nhw yma yn hytrach nag yn ardal y llynnoedd. Meheryn roedd y rhan fwyaf.
Ac wrth dod at y cae lle roedd y defaid, cael hyd i’r puffballs yma - gair Cymraeg?
A felly y ol i goginio gyda ’r tatws, aubergines o’r tŷ gwydr, tomatos, a caws - a’r puffballs wedi ffrio. Bendigedig!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home