Rywsut dwi ddim wedi llwyddo i
flogio llawer yn ddiweddar. Ond dwi wedi bod digon brysur: yn yr ardd fel
arfer, ond hefyd yn mynd am ambell i dro i gasglu cynnyrch y hydref.
Roedd rhaglen Galwad Cynnar, wythnos diwethaf, yn ardderchog o ran syniadau
am be i wneud gyda’r gwledd sydd o gwmpas ar y funud. A llawer o’r
syniadau, wrth gwrs, i’w wneud a jîn ffrwythau, neu fodca! Dwi ddim yn
hoff o fodca o gwbl, felly jîn amdani!
Mae ’na ddigon o eirin tagu o
gwmpas, ac am ei fod yn gynnar yn y tymor, dwi wedi rhoi be dwi wedi casglu hyd
at hyn yn y rhewgell.
Hefyd mae’n weld yn dymor dda
am gnau. Digonedd ar y coeden yn y ’berllan gerila’, a ffrind hefyd wedi
dod a rhai oedd hi wedi casglu.
Dwn i ddim lle: mae’r wiwerod yn mynd a’r
rhai gwyllt i gyd, yn aml.
Mae o wedi bod yn hyfryd beicio i’r
gwaith gyda’r haul allan a’r coed yn troi eu lliw, ond bydd o ddim mor hyfryd
beicio adref gyda’r nos yn dod mor gynnar. Dyma rhan o'r llwybr dwi'n cymryd.
Ond heddiw,
clirio a twtio’r tŷ gwydr bydd y peth gyntaf ar y rhestr, a symud y planhigion
bach salad i rhoi dipyn o le iddynt.
1 Comments:
Sut ar y ddaear ti'n cadw'r wiwerod llwyd oddi ar y coed cnau?!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home