Mwy o gynganeddu ac arddio
O’r diwedd dwi am gyfrannu i’r blog. Rhywsut mae pethau wedi bod yn brysur - fel dwedais, dwi wedi dechrau ar gwrs cynganeddu (a oedd hynny’n syniad da, tybed?) ac wedi bod i ffwrdd yn cael hoe fach.
Ar y funud, beth sydd yn fy nharo i, ydy bod y clocs wedi newid, a bore ’ma, lle ’roedd hi yn ugain munud wedi 7 ddoe, heddiw mae hi ond yn ugain munud wedi chwech, Mae hyn yn beth da am y bore. Dwi wedi ei chael hi’n anodd codi yn ddiweddar oherwydd ei bod mor dywyll. Rŵan bydd hi’n olau erbyn 7, ond yn tywyllu yn gynt gyda’r nos. Felly dan ni’n paratoi am y Gwanwyn. Prynhawn ddoe, rhois fylbiau cennin Pedr i mewn i’r ardd - ac mae 'na fwy i fynd i mewn. Ond hefyd, mae’r cynhaeaf yn parhau. Dyma bupurau o’r tŷ gwydr. Maen nhw wedi dod yn hwyr, ond yn cochi rŵan ac yn flasus.
Hmmm... y cwrs cynganeddu. Mwynheais y dosbarth cyntaf - ond wedyn roeddwn i ffwrdd am yr ail ddosbarth, a rhywsut yr oedd hi’n teimlo fel bod popeth wedi carlamu ymlaen pan ymunais â’r trydydd dosbarth. Dwi’n dal i ddal i fyny (mae 'na bron (ond dim cweit!) cynghanedd yn fanna!). Dydy’r peth ddim yn hawdd, yn sicr. Ers gwers 3 dan ni wedi cael gwaith cartref. Hmm. Trïais fy ngorau gyda’r gwaith cartref cyntaf - a threuliais gryn dipyn o amser arni, ond gyda chanlyniadau cymysg. Roedd y canlyniadau o’r gwaith cartref o wers 4 yn well - ond yn dangos fy mod heb ddallt y rheolau a’r mathau o gynghanedd yn iawn eto. Dwi’n medru bod yn ystyfnig, felly dwi’n dal ati.
Mi ddois i ar draws gwersi ar YouTube gan Aniurin Karadog: felly dwi wedi bod yn gwylio’r rheini hefyd. Ond heb orffen eto. Mae’r cwrs cynganeddu ond yn para am 9 wythnos: 9 gwers. Sydd yn hynod o fyr gan ystyried bod prentisiaeth yn cymryd 9 mlynedd yn y canol oesoedd!! (Ond doedd youtube ddim yn bodoli). Felly ymlaen a ni. A dyma un enghraifft fach o (jest un lein o) gynghanedd: “Ar daith yw ein hiaith o hyd”. Ond mae rhaid ystyried mae ond y ddau air cyntaf (Ar daith) wnes i sgwennu. Mater o lenwi’r bylchau ydy’r rhan fwyaf o’r ymarferion ar hyn o bryd!

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home