Gwyl Ddewi Arall
Treuliais y penwythnos yng Nghaernarfon i fynychu Gŵyl Ddewi Arall fel dwi’n trio gwneud bob blwyddyn. Mae’r ŵyl yma yn llai na’r un sydd yn yr haf, ond yn bwysig i fi o ran siarad a chlywed y Gymraeg trwy’r penwythnos, a digwyddiadau diddorol: llenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes. Y digwyddiad cyntaf i fi fynd iddo oedd darlith gan Elin Tomos am sut roedd merched yn cyfrannu at incwm teuluoedd y chwarelwyr. Dwi wedi clywed Elin yn siarad fwy nag unwaith ac mae hi wastad yn ardderchog. Wrth gwglo rŵan gwelais fod Elin Tomos wedi cael ei henwi ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed yng nghylchgrawn hanes y BBC yn 2024.
Ac mae hi’n dweud, ar LinkedIn, ynglŷn â'r pwnc yma: “Mae cofnodion y cyfrifiad wedi awgrymu ers amser maith nad oedd menywod yn cyfrannu at incwm y teuluoedd, ond tydi'r cyfrifiad ddim yn ffon fesur deg.”
A dyna yr oedd hi’n esbonio: sawl reswm pam nad oedd y cyfrifiad yn dweud y cwbl: e.e.. diffiniad gwaith yn tueddu i gynnwys gwaith tu allan i’r tŷ a bod y dynion yn llenwi'r cyfrifiad ac efallai ddim yn fodlon cyfadde’ bod y gwragedd yn gwneud cyfraniad economaidd - oherwydd eu dyletswydd nhw, y dynion, oedd ennill pres.
Yr oedd Elin yn sôn am ferched yn hel a gwerthu mawn a grug gan ddefnyddio merlod, ond wrth i’r diwydiant gynyddu, gwaith yn y cartref oedd gwaith merched er bod tystiolaeth hefyd bod merched yn cludo llechi. Roedd cyfrifiad 1871 yn dangos bod Mari Jones a oedd yn weddw ac yn 37 oed yn cael ei disgrifio fel “carrier of slaes from quarry”. Ac efallai bod yr adfywiad crefyddol wedi cael effaith i gadw merched gartref. Beth bynnag, erbyn 1901, roedd 84% o ferched Bethesda yn ddi-waith, yn ôl y cyfrifiad. Ond efallai bod llawer mwy yn gweithio, ond yn y cartref? Yr oedd cadw tai lojins yn rhywbeth cyffredin yn y cyfnod yma a’r merched oedd yn gyfrifol am y gwaith yma – ac wrth gwrs, ‘roedd merched hefyd yn gofalu am y tyddyn: os oedden nhw yn byw yng nghefn gwlad yn aml yr oeddent yn cadw mochyn ac ieir ac efallai gwartheg ac yn tyfu llysiau. Merched oedd yn gwneud y gwaith yma – ond doedd y gwaith yma ddim yn cyfri yn y cyfrifiad.
Mae Elin wedi cyhoeddi un llyfr: "Y mae y lle yn iach: Chwarel Dinorwig 1875-1900" a gobeithiaf efallai bydd y gwaith yma yn arwain at llyfr hefyd.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home