Ailddysgu

Wednesday, 18 February 2026

Y pull

Yn ôl bob sôn, os ydych am gael gardd sydd yn dda i fywyd gwyllt, pwll ydy’r peth gorau allech chi gael.  Yn ein gardd cefn, mae pwll bach wedi bod yna am flynyddoedd, ers i fi adeiladu un gyda fy mab ifancaf, un diwrnod dros wyliau’r Pasg.  Roedd hynny rhywbeth fel 30 mlwyddyn yn ôl.  Gwnaethon ni trio dilyn y cyngor i wneud y pwll mor fawr â phosib, ond ar ôl gorffen, roedd y pwll yn edrych reit fach.  Ond ta waeth.  Dros y blynyddoedd mae’r pwll wedi denu gwahanol fathau o fywyd gwyllt: yn bennaf, llwyth o lyffantod, a gweision y neidr. 28 05 2012; 10 March 2020; 24 March 2025; 7 March 2025

 

Ond doedd y pwll, erbyn hyn, (wel, ers tipyn!) dim yn dal dŵr yn iawn.  Roedd rhwyg bach yn rhywle.  Felly aethon ni (y garddwr a fi) ati i newid y leiner.  Gwaith caled a chorfforol!  Yn anffodus roedd llawer o lyffantod yn cysgodi yn waelod y pwll, ac roedd rhaid symud nhw dros sbelan.  Dyma rhai ohonyn nhw:

 

Ac erbyn hyn yr oedd y pwll yn orlawn o blanhigion hefyd.    Mae’r pwll yn edrych yn wag iawn ar ôl cael ei ail lenwi.  Dwi ddim yn cofio o le ddaeth yr iris, ond maen nhw wedi bod mor brydferth bob Gwanwyn. Rŵan, tamaid bach sydd ar ôl, ond mi ddown yn ôl yn eithaf cyflym er na fydd llawer o flodau eleni.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home