Gan ei fod yn glawio yma ( a hynny’n beth da oherwydd mae hi wedi bod mor sych, hyd yn oed yn ddiweddar) dwi wedi bod yn gwylio tipyn o S4C. Un rhaglen ddes i ar ei draws ydy “Ein Hail Lais” lle mae Jess Davies yn siarad ag eraill ac yn trafod eu perthynas â siarad Cymraeg fel ail iaith. Mae rhai wedi dysgu Cymraeg trwy ysgolion Cymraeg, ac un heb ddysgu llawer yn yr ysgol ac wedi dod at yr iaith fel oedolyn - wedi dewis ei ddysgu. Mae sawl pwynt yn codi. Un ydy hyder (neu ddiffyg hyder) a’r teimlad neu’r ymateb i unigolyn cael ei feirniadu wrth siarad Cymraeg. Mae hyn yn amlwg yn broblem i’r cyflwynydd, Jess Davies – rhywun doeddwn ni ddim wedi dod ar ei thraws hi o’r blaen. Mae rhai, fel Lili Beau, wedi dysgu yn yr ysgol ond mae chanddi hi deimladau gwahanol iawn tuag at Gymraeg y dyddiau yma. Gan nad oedd ei rhieni yn siarad Cymraeg roedd rhyw rwyg rhwng iaith yr ysgol ac iaith yr aelwyd, ond fel oedolyn mae hi yn teimlo’n wahanol: yn llawer mwy positif – ond mae hi yn cofio rhieni ei ffrindiau yn ei beirniadu am ei Chymraeg pan oedd hi’n blentyn. Ond yn amlwg mae ei hyder wedi tyfu, ac mae hi yn cael ffrind i’w helpu i gyfieithu ei chaneuon i’r Gymraeg. Ac mae hi’n gweld ei hun, yn gyntaf, fel Cymraes.
Mae Gav Murphy yn ei weld ei hun yn Gymro a dim yn meddwl am Gymraeg fel ail iaith ond wedi cael beirniadu yn gryf am ei fratiaith. Ond mae o am ddysgu mwy gramadeg pan fydd o’n medru – fel y treigladau. Hefyd mae hi’n siarad â Nick Yeo sydd wedi dysgu’r iaith fel oedolyn – ar ôl gwneud rhywfaint yn yr ysgol. Mae hi’n amlwg bod cymhelliant mor bwysig, ac roedd hyn yn brin i’r plant a oedd yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol nac yn gofyn pam.
Ar ôl hyn dwi wedi bod yn meddwl am fy mherthynas i â Chymraeg. Dwi ddim yn teimlo fel dysgwr? A dwi yn teimlo’n eithaf rhugl y rhan fwyaf o’r amser. A falle bod hynny am fy mod wedi cael fy magu mewn ardal mor Gymraeg a siarad Cymraeg fel plentyn: hyd yn oed os nad oedd fy Nghymraeg yn dda iawn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai fy mamiaith ydy’r Gymraeg. Ac mae hynny’n beth braf. Ond wrth gwrs, mae mynegi fy hun yn y Gymraeg yn llawer anoddach nac yn Saesneg. Mae hyn yn digwydd gyda bob iaith sydd ddim yn famiaith, dwi’n meddwl. Dysgais Eidaleg i safon eithaf da – ond dwi ddim wedi ei ddefnyddio am rhy hir – ac mae hi’n rhydlyd erbyn hyn. Roeddwn yn medru cynnal sgwrs a darllen ambell beth – ond roedd yn waith anodd. Efallai’r gwahaniaeth gyda Chymraeg ydy ei bod hi’n byw ochr ac ochr gydag iaith fawr bwerus – ac felly isio cefnogaeth, a hefyd y treigladau!!! Ond ‘roedd yn syndod i fi dysgu am y diffyg hyder gan Jess Davies.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home