Ailddysgu

Friday, 29 August 2025

Problemau teuluol a thristwch

Sgwennais hwn wythnos yn ôl, (Awst 27) ac ond rŵan dwi wedi mynd yn ôl i edrych arno fo a gwneud dipyn bach o gywiro.


Ar ôl methu cysgu, a hithau yn gynnar o hyd (cyn 6 y bore) meddyliais baswn yn defnyddio’r amser, er fy mod yn flinedig, a sgwennu blog.  Byddaf yn trio cysgu eto amser cinio, i dal i fyny.  Mae hwn am fod yn flog anodd ei sgwennu - llawer mwy difrifol na sgwennu am arddio neu gerdded; ond dwi’n meddwl ei fod yn bwysig i drio.

 

Anodd gwybod pam mae insomnia yn taro.  Dwi’n mynd i gysgu’n iawn ond wedi codi a mynd i’r tŷ bach methu mynd yn ôl i gysgu.  Ond mi ges i newyddion drwg a thrist iawn ddoe, ac efallai dyna’r rheswm.  Mae teulu fy mrawd ddiweddar wastad wedi brwydro gyda bywyd bob dydd -  teulu “dysfunctional” heb os.  Mae fy nith hynaf wedi ei chael hi’n anodd iawn: pedwar plentyn - i gyd wedi tyfu i fyny erbyn hyn, ond y tri mab wedi syrthio i mewn i gwmni drwg, cymryd cyffuriau, dioddef o broblemau iechyd meddwl a.y.b..  Mae’r tri wedi bod mewn carchar yn ddiweddar,  ac mae un, Connor, yna o hyd ac am ddod allan yn fuan.  Cyn i bethau mynd yn ddrwg, roedd Connor a’i frawd Declan yn medru bod yn fechgyn annwyl iawn, ond dwi’n meddwl bod fy nith wedi eu ffeindio nhw’n anodd, a’i gŵr (a hithau) gyda phroblemau iechyd meddwl ei hun, hefyd.  Bu farw gŵr fy nith ychydig o flynyddoedd yn ôl, o gancr.  Ers hynny mae hi wedi bod ar ben ei hun gyda’r “plant”, sydd i gyd, erbyn hyn, wedi tyfu i fyny, ond bod gan y bechgyn broblemau enfawr.

 

Bu farw fy mrawd bron bedair blynedd yn ôl, a fy chwaer yng nghyfraith dwy flynedd yn ôl.  Felly mae’r nithoedd a’r neiaint wedi colli eu rhieni o fewn ddwy flynedd ac (mi faswn yn meddwl) yn ei chael hi yn anodd.  Ac ar brynhawn heulog, ddoe, wrth adael yr archfarchnad leol, atebais alwad ffôn gan fy nith, i ddweud bod ei mab, Declan wedi marw.  Stori gymhleth ac efallai ddof yn ôl ati.  Yn amlwg, ’roedd Declan wedi trio cael help gyda’i iechyd meddwl ond dim wedi llwyddo i gael y fath o help i wneud gwahaniaeth.  Am drist.  Mae gan un o fy neiaint  lu o broblemau iechyd: corfforol a meddwl, ac mae o mor anodd cael yr help sydd angen.  Does dim llawer o gymorth o gwbl i’r difreintiedig.  Mae fy nai (ifancaf) wedi bod yn gweithio ond yn methu gwneud hynny rŵan oherwydd bod ei iechyd wedi dirywio gymaint ac mae’r fflatiau a thai o gwmpas yr ardal yma (fel mewn llawer o lefydd) yn ddrud ofnadwy.  Dydy o ddim yn medru talu am ei dŷ, pellach, ac am aros iddo gael ei droi allan a bydd rhaid i’r cyngor ffeindio rhywle iddo fo.  Gobeithio wir fydd hynny’n digwydd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home