Ailddysgu

Thursday, 21 May 2026

Mis Mai yn yr ardd


Mae’r post blog yma wedi cael ei sgwennu dros mwy nag wythnos!. Dyma be sgwennais ar 13 Mai: “O’r diwedd dan ni wedi cael dipyn bach o law.  Mae o fel bod cawodydd mis Ebrill wedi cyrraedd ym mis Mai, a mae bob tamaid yn helpu, er be dan ni wir angen ydy diwrnod neu ddau o law go iawn.  Ond beth bynnag, bydd yr ardd yn gwerthfawrogi’r glaw.

 

Mae sawl blanhigyn yn aros i fynd i mewn i’r ddaear yn cynnwys blodau’r haul, a ffa dringo Ffrengig.  Dwi am trio rhoi’r blodau haul i mewn mewn ryw hanner awr.”


A do, mi wnes i, ac mae’r blodau haul i mewn rŵan.  Efallai byddan nhw eisiau rywfaint o gefnogaeth – ond am ei fod yn bwrw eto'r prynhawn yma fedrith hynny aros am dipyn.  A dim ond y blodau haul sydd wedi’u plannu: mae planhigion persli wedi mynd i mewn; “Good King Henry”; nionod Cymreig ac yn bwysig, ffa dringo Ffrengig.  Roedd y rhew olaf yn hwyr eleni (gan dybio mai dyna oedd yr olaf!) felly ar Mai 15 aeth y ffa i mewn a gobeithio wir byddant yn iawn.  Mae’r tywydd wedi cynhesu dipyn, beth bynnag.


Mae’r tomatos a’r pupurau yn aros i fynd i mewn yn y tŷ gwydr - er bod rhai o’r tomatos am fynd 
allan ond mewn ychydig o ddyddiau.
 
Ac erbyn rŵan, mae dau blanhigyn tomato wedi mynd i’r pridd yn y tŷ gwydr, a’r lleill naill yn aros i fynd i mewn, neu am gael eu plannu yn yr ardd (ond 3 sydd yn mynd allan).  Maent i gyd yn fach, ond dwi’n gobeithio byddant yn tyfu’n dda.  Mae’r “llecyn gwyllt” yn yr ardd wedi mynd yn fwy gwyllt nag o’n yn bwriadu, ond yn cynnwys blodau “Phacelia”. 
Mae’r rhain yn cael eu defnyddio fel tail gwyrdd (torri nhw i lawr ar ôl iddynt flodeuo er mwyn rhoi 
 maeth i’r pridd) ond hefyd maent yn ddeniadol iawn i wenyn fel gwelwch yn y llyn yma.  A dyna 
ni am heddiw.  Gobeithio bydd yn blog nesaf ddim yn cymryd dros wythnos i orffen



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home