Ailddysgu

Monday, 16 February 2026

Garddio: hau hadau

Cefais ddiwrnod da dydd Sadwrn, yn hau hadau yn y tŷ gwydr.  Fel soniais mewn blog arall, eleni, arhosais tan ddydd San Ffolant i ddechrau’r proses. Erbyn hyn mae’r golau’n well ac mi fydd y planhigion bach yn medru ymdopi - ond mae rhaid cael gwres  - ac mae hi’n ddigon cynnar i blanhigion sydd yn tyfu’n araf (fel aubergines) cael digon o amser i dyfu ac aeddfedu.

 



Felly mae tomatos wedi cael eu dechrau - a phupurau coch, aubergines, sawl math o letys, blodau cosmos a chiwcymbr.  Gobeithio byddant yn ffynnu!  A gan fod y tywydd yn dda, am unwaith (glaw trwy’r dydd canlynol...) es am dro sylweddol cyn brecwast ac roeddwn hefyd yn medru gwneud dipyn o waith yn yr ardd.  Dwi wedi symud planhigion salvia wrth ymyl y rhosod newydd, i guddio’r coesau hyll.  Mae blodau rhosod yn ddel, ond nid y blanhigyn ei hun!  Ac mae’r gwely ffa llydan yn barod am res arall o ffa.




 

Ond heddiw, dydd Llun, penderfynais beidio rhoi’r ffa yn y gwely, oherwydd yr oedd y tir mor wlyb.  Dwi wedi rhoi’r ffa yn y tŷ gwydr, mewn root trainers fel y rhain, sydd yn gweithio’n dda, a dwi wedi hau pys mewn hen fasged gyda phapur newydd tu mewn.  Dwi am ddefnyddio nhw fel “shoots” ar gyfer salad.  Felly mae digon o bethau wedi cychwyn eu taith – gobeithio byddant yn llwyddiannus!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home