Ailddysgu

Tuesday 19 January 2010

Gwanas i Gbara

Welsoch chi Gwanas i Gbara ar S4C? Hanes Bethan Gwanas yn mynd yn ol i Gbara - pentre fach fach yn Nigeria, lle bu hi'n gweithio fel athrawes am ddyflwydd yn 1984 yn dysgu Saesneg mewn ysgol y pentre. Darllenais y llyfr (Dyddiadur Gbara) dipyn o amser yn ol lle mae hi yn disgrifio bywyd bob dydd mewn lle anhysbell heb trydan neu ddwr - lle roedd teithio i'r dre nesaf (hyd yn oed y pentref nesaf) yn antur. Yn y rhaglen cyntaf mae Bethan yn cyfarfod a rhai o'r pobol a oeddent yn ei dosbarth hi a gweld be mae nhw'n gwneud rwan (dipyn fel "lle mae pawb", mewn ffordd)... Mae rhai o'r cyn-ddisgyblion wedi cael swyddi "mawr" a mae nhw i gyd yn cofio Bethan ac yn siarad am eid ddylanwad hi arnyn nhw ac ar yr ysgol. Er engraiff, hi oedd yn gyfrifol am cael llyfrgell yn yr ysgol. Tybed fyddai "VSO" yn gyrru ddwy ferch i rhywle mor anhysbell heddiw? Rhaglen diddorol - ac emosiynol. Mae'r ail raglen ar nos Iau - a dwi eisio ail-ddarllen y llyfr rwan!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home